Cynhaliwyd trydydd ‘Gwledd Syrcas Feast’ Pontio fel digwyddiad naw diwrnod o hyd i roi llwyfan i syrcas cyfoes, ym mis Gorffennaf 2019. Thema’r wledd oedd ‘Y Byd wrth ein Traed’, ac roedd y Wledd yn arddangos gwaith o nifer o wahanol wledydd, yn ogystal â darparu blas o dalent cerddorol a syrcas lleol. Y prif berfformwyr oedd Circus Abyssinia, cwmni syrcas cyfoes o Ethiopia, sydd wedi perfformio ar draws y byd ac wedi ennyn canmoliaeth gan adolygwyr a’r cyhoedd fel ei gilydd.