Cartref digidol diwylliant Cymru.

GWLEDD I’R LLYGAD

No Categories Found

Mae Cara Gwanwyn 2021 yn llawn gwaith celf amrywiol a lliwgar gan Gymry talentog. Dyma flas o rai ohonyn nhw

Rhoi gwledd i’r llygad yw un o prif fwriadau cylchgrawn Cara. Yn ogystal â’r artistiaid rheolaidd sy’n ymddangos ynddo, fel darluniau Efa Lois o adeiladau Cymru, ‘collage’ Elin Lisabeth gyda cholofn Ledi G, a symbolau astrolegol Lleucu Gwenllian i gyd-fynd ȃ Syllu ar y Ser, mae Cara gwanwyn 2021 yn llawn gwaith celf amrywiol a lliwgar gan Gymry talentog. Dyma flas o rai ohonyn nhw:

1. Y tro hwn rydyn ni wedi comisiynu darn unigryw tudalen gyfan gan yr artist Sera Wyn, yn arbennig ar gyfer Cara, gyda’r geiriau enwog ‘O lili wen fach’. Mae modd adnabod gwaith Sera Wyn yn syth – mae’r lliw glas yn hawlio sylw, a byd natur Cymru yw ysbrydoliaeth yr artist. Gobeithio y bydd y darlun yn dod ag ychydig o obaith i chi ar gyfer y gwanwyn.

2. Mae lluniau llinell nodweddiadol HIWTI bellach yn gyfarwydd iawn i’r rhai sy’n ei dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol ond dyma lun gwahanol i gyd-fynd â cholofn ei chwaer, Lisa Angharad, yn dangos corff noeth beichiog. Yn y golofn, mae Lisa’n disgrifio ei phrofiad o fod yn feichiog a gweld ei chorff yn newid, ac mae gwaith HIWTI yn dathlu cyrff menywod o bob math ac yn cyd-fynd a cholofn Lisa i’r dim – “O’n i ’di teimlo mor unsexy, frumpy a sâl mor hir ac yn sydyn, fel mellten, newidiodd fy meddylfryd i’n llwyr a ’nes i sylweddoli pa mor voluptuous a llawn o’dd ’y nghorff i’n edrych.”

3. Y fam a’r ferch artistig, Annie Suganami a Seren Morgan Jones, yw ein prif gyfweliad y tro hwn. Mae’r ddwy yn artistiaid llwyddiannus ac yn “partners in crime”, yn eu geiriau nhw. Darlunio portreadau yw prif arddull Annie a Seren, ac mae gwaith Seren yn benodol yn “dathlu beth yw bod yn fenyw (a femme) Gymreig”. Diolch iddyn nhw am rannu hanes eu bywydau a’u gwaith, a rhai o’u hysbrydoliaethau mwyaf. Ni’n dwlu ar eu gwaith celf!

Mae modd i chi weld a darllen mwy am y celf a’r artistiaid hyn yn rhifyn gwanwyn newydd sbon Cara, sydd newydd gyrraedd y tanysgrifwyr a’r siopau.

Gallwch danysgrifio i gael 3 rhifyn y flwyddyn drwy’r post ar ein gwefan www.cara.cymru

RHANNWCH