Ti ar dy orau pan ti’n canu
Teitl a neges tra phwerus, gysurus albwm diweddaraf y band poblogaidd Gwilym.
Dyma ail albwm hirddisgwyliedig y band ers rhyddhau Sugno Gola nôl yn 2018. Maent yn dychwelyd gyda’u sŵn newydd ddatblygiedig wrth ddal ar eu stamp gwreiddiol a chyfarwydd. Rhyddhawyd yr albwm mewn ffordd unigryw drwy’i rannu’n ddwy ran, gyda’r naill wedyn y llall yn adeiladu’r cynnwrf yn berffaith at ryddhad yr albwm yn ei gyfanrwydd ddechrau’r Haf. Mae’r band wedi parhau i fod yn brysur ers rhyddhau’r albwm wrth fynd ar wythnos o daith dros Gymru, yn ogystal a chyd-weithio efo Lŵp ar fideo, neu ffilm fer yn fwy priodol, i gyd-fynd â’r albwm.
Er mai dwy gân sydd i’w gael mae’r ffilm yn gynrychiolaeth o’r albwm â’i themâu sy’n cael ei amlygu o’u dewis o ganeuon. Y cyntaf oddi ar yr albwm, ‘dwi’n cychwyn tân’, a’r olaf i ddilyn, ‘ti ar dy orau pan ti’n canu’ yn gweithio’n gelfydd i gwmpasu’r cyfan.
Dilynnwn daith ddwys a phwerus cymeriad ‘Gwilym’ wrth iddo ddianc o gaethiwed llwm ei fyd o fewn pedair wal wen, at ryddid llydan yr awyr agored, a hynny drwy gyfrwng cerddoriaeth. Wrth i’r cymeriad gael ei gyflwyno i gerddoriaeth mae ei fywyd yn newid yn gyfan gwbl, a honno’n un haen yn unig i’r hyn rydym yn ei weld.
Ceir yn ogystal archwiliad o’r hunain a brwydrau mewnol a pŵer cerddoriaeth o fewn hynny, ond hefyd pŵer sydd gan gwmni neu eiriau eraill. Drwy gydol y ffilm fer dydyn ni ddim yn siwr os mai ffrind yn estyn llaw yw’r cymeriad arall yntau’n ddrych neu’n ran, neu lais arall ym meddwl ‘Gwilym’. Drwy gyfrwng y ddau gymeriad a’r berthynas rhyngddynt cawn archwiliad tyfnach o wrywdod a’r hawl i deimlo, a’r hawl i fregusrwydd.
Mae’r cyferbyniad trawiadol rhwng yr ystafell un-lliw a gogoniant amryliw y tirwedd i’w weld hefyd yng nghymeriad ‘Gwilym’ wrth iddo sylweddoli gwerth a phŵer y gerddoriaeth sy’n atgyfnerthu’r neges deimladwy y dylid ei gofio, ‘ti ar dy orau pan ti’n canu’.