Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gwehyddu a Gwnïo Heddwch

Cymuned

Ar draws y byd, mae merched yn creu eu heddwch mewnol trwy wnïo a gwehyddu ond hefyd yn defnyddio hynny mewn modd chwyldroadol i fynegi eu hunain. Dydan ni ddim yn wahanol yn hynny o beth.  

Gan ddefnddio cnu o’i fferm yn Llanfrothen, daeth Olwen Ford atom i wehyddu ac i ni gael sgyrsiau am beth ydi ystyr heddwch i ni heddiw o ran heddwch mewnol, addysg, bwyd, bywyd merched. Cafwyd sgyrsiau hynod o ddifyr a chreodd bawb fat o wlân i fynd adref.  

Mae cangen arbennig o Byw Mewn Heddwch hefyd yn weithredol yn ardal Y Bala dan arweiniad Margiad Jones a Gudrun Jones sy’n creu Ffenest Heddwch trwy wnïo a brodwaith. Gofynnwyd i bawb yn ein sesiynau ‘Taset ti’n edrych trwy ffenest heddwch, be’ faset ti’n ei weld?’ Mae Margiad a Gudrun yn dod â’r syniadau hyn ynghyd â bydd criw o ferched sy’n mynychu grwpiau gwnio yn ymgymryd a’r gwaith o wnïo’r ffenest fetr sgwar. 

 

RHANNWCH