Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gwawrio gan Tegwen Bruce-Deans

Llenyddiaeth

Mewn cyfweliad arbennig i AM, Tegwen Bruce-Deans, fu’n sgwrsio am ei gwaith, y gyfrol a’i dylanwadau.

Sonia am y gyfrol.

Dechreuodd gnewyllyn Gwawrio fel rhan o aseiniad terfynol modiwl Gweithdy Barddoniaeth pan oeddwn yn y brifysgol ym Mangor. Cyn hynny, er i mi fod yn barddoni’n arbrofol yn weddol gyson dros y blynyddoedd yn fy amser hamdden, doeddwn i ddim wir yn teimlo fel petawn i wedi dod o hyd i fy llais barddonol eto.

Mae’r teitl ‘Gwawrio’ yn deillio o’r ffaith fy mod i’n teimlo fel fy mod i ‘yng ngwawr fy nydd’ ar hyn o bryd wrth ysgrifennu. Dwi bellach di cyrraedd pwynt lle dwi’n teimlo fel bod yr haul yn codi a dwi’n gallu mynegi fy hun yn yr union ffordd dwi’n dymuno gwneud wrth roi pen i bapur. Mae’r wawr i mi yn symbol o’r byd natur yn deffro, a chan bod gymaint o natur yn rhedeg fel llinyn trwy fy ngherddi, roedd hi’n teimlo’n naturiol i ddefnyddio symbolaeth natur yn deitl i’r gyfrol.

Mae hi hefyd yn cyfeirio at y ffaith fy mod i’n llais ifanc. Dwi’n ysgrifennu am yr hyn dwi wedi teimlo ac arsylwi dros y blynyddoedd diwethaf fel myfyriwr yn ystod pandemig byd eang, Mae’r holl gwestiynu ac ansicrwydd sy’n rhedeg trwy’r gyfrol yn ceisio cyfleu sut deimlad yw hi i fod yn dy ugeiniau a thrio deall y byd yn ei holl gybolfa! Mae’r gerddi yn bersonol – rhai yn fwy na’r lleill – ond dwi’n ceisio dal profiadau cyffredinol fel bod unrhyw un yn gallu uniaethu gyda’r teimladau sy’n cael eu crisialu.

Dwi ar ddechrau fy nhaith ysgrifennu barddoniaeth, a dwi ‘di cyffroi i weld yr hyn a ddaw nesaf pan mae’r haul yn cyrraedd ei anterth.

Beth ysbrydolodd y cerddi?

Un o’r prif bethau sy’n fy ysbrydoli yw’r pwysigrwydd o ddod o hyd i ryw hud mewn pethau bychain bywyd. Chwythu blewyn amrant, cyfeillgarwch cysgod, golau’n taro gwydr lliw; dwi’n meddwl bod dod o hyd i awen mewn rhai o bethau mwyaf syml a chyntefig bywyd yn cynnig rhyw gysur wrth ymdrin â themâu a syniadau llawer mwy. Mae’n hawdd edrych y tu hwnt iddyn nhw, ond wrth droi sylw atyn nhw weithiau mae atebion i gwestiynau mawrion yn dod i’r amlwg.

Dwi hefyd yn angerddol dros sicrhau bod cynrychiolaeth yn gwella o fewn y sin barddoniaeth Cymraeg. O ganlyniad i ganrifoedd o ddiffyg cydraddoldeb, mae lleisiau benywaidd ar goll o’r canon sy’n cyflwyno plant a phobl ifanc i farddoniaeth am y tro cyntaf. Os nad yw merched yn gweld llais i’w profiadau nhw, peryg y bydd naratif yn cael ei adeiladu nad yw barddoniaeth yn ffordd addas o fynegi eu profiadau. O ganlyniad, mae tinc ffeministaidd yn britho’r gyfrol gyfan.

Roedd aros yn driw i fy nhafodiaith yn bwysig i mi hefyd wrth i ni olygu’r gyfrol hon. Yn dod o gefndir di-Gymraeg, dwi wedi mabwysiadu coctel o ddylanwadau tafodieithol dros y blynyddoedd ac yn aml wedi trio cuddio hwn er mwyn ‘ffitio mewn’ fel petawn i wedi cael fy magu ar aelwyd Gymraeg. Y gwir yw yn y Gymru gyfoes mae cymaint o bobl yn gallu uniaethu gyda pherthynas gyda’u gwlad a’r iaith sy’n wahanol i’n syniad traddodiadol ni o gefndir a hunaniaeth ‘bardd’. Gobeithio bod fy null o ysgrifennu yn gallu bod yn hwb i eraill arddel hunaniaeth fel ‘bardd’ o’r diwedd, hefyd.

Sut fyddet ti’n disgrifio dy ysgrifennu?

Cwestiwn anodd, ond mi wna i geisio crynhoi mewn tri gair: gofalus, teimladwy, telynegol.

Gwaith pa feirdd neu awduron wyt ti wedi fwynhau yn ddiweddar?

Ar hyn o bryd, dwi bron â gorffen cyfrol Ellena Savage, Blueberries; casgliad o ysgrifau sy’n arbrofi gyda ffurf ac iaith delynegol wrth ymdrin â phynciau dwys a phwysig. Wnes i hefyd wirioneddol mwynhau’r nofel Cwlwm gan Ffion Enlli yn ddiweddar, ac yn parchu’r modd y mae hi’n mynd ati i chwalu disgwyliadau o’r nofel draddodiadol Gymraeg mewn amrywiaeth o ddulliau herfeiddiol. Yn farddonol, dwi wrth fy modd yn darganfod lleisiau newydd trwy bodlediad Pádraig Ó Tuama, ‘Poetry Unbound’, sydd wedi dechrau ar ei gyfres ddiweddaraf yn y misoedd diwethaf. Ces i flas mawr ar gyfrol Ystlum gan Elen Ifan hefyd!

Oes gen ti waith newydd ar y gweill?

Mae Gwawrio wedi bod yn ffrwyth gwaith creadigol yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, ac o ganlyniad dwi’n edrych ymlaen at gael cyfnod bach o ysgrifennu er fy mwyn fy hun, unwaith eto – cyfnod i fyfyrio, a chyfnod i arbrofi. Wedi dweud hynny, dwi’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfleodd sy’n dal i godi yn sgil cyhoeddi Gwawrio, boed yw hynny’n cydweithio’n greadigol gyda phobl eraill, neu gael rhannu a darllen fy ngwaith ar draws y wlad!

Gwawrio gan Tegwen Bruce-Deans ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH