‘Llawn’ yw sengl ddiweddaraf yr artist arbrofol gyffrous o Sir Gaerfyrddin, Gillie. Ym mis Hydref y llynedd rhyddhaodd ei sengl Gymraeg gyntaf ‘I ti’ ar label Libertino, gan ddechrau pennod newydd a gosod sylfaen gadarn ar gyfer yr hyn oedd i ddod. Yn wir mae’r artist wedi cael blwyddyn go lwyddiannus yn barod gyda un o’i senglau’n cael ei chwarae ar Radio 1 yn ogsytal a ymddangos ar restr chwarae ‘NME New Bangers’. Hi ei hun sy’n ysgrifennu a chynhyrchu ei cherddoriaeth ac yn sgîl hynny dywed ei bod wedi ceisio “sonically explore something that felt both rhythmically uncertain, and free, with builds and small releases of tension throughout.”
Ffocws thematig y gân ‘Llawn’ yw’r rheolaeth sydd gan bobl neu bethau ‘allanol’ ar yr hunan. Ac, o bosib, y rhyddhâd a’r dycnwch a ganfyddir o fewn yr ansicrwydd hwnnw drwy archwilio’r hunan. Gwneir hynny trwy ddefnyddio bwyd fel trosiad, neu arf, i gyfleu’r gormodiaeth a’r syniad hwn o rywun yn bwydo rhywbeth neu rhyw naratif i rywun arall. Mae’n destun hynod sensitif a chymhleth i geisio’i gyfleu ond fe grisielir y neges yn glir yn y fideo sy’n cyd-fynd. Bu’r artist yn cyd-weithio gyda Lŵp i greu’r darn hynod drawiadol, gweledol hwn. Yn ddi-os, mae Gillie yn artist amryddawn, gan mai hi hefyd sy’n actio rhan y ddau gymeriad neu dwy ran o’r un cymeriad efallai. Fel darn mae’n hynod sinematig, gyda stampiau dylanwadol amlwg fel Wes Anderson i weld ar y cyfanwaith. Er i’r cyfan ddelio â themâu ac agweddau meddyliol dwys yr hyn sy’n ffres yw’r ffaith mai ar y rhyddhâd yma mae’r pwyslais mwyaf – y gerddoriaeth, ei rhythmau yn bleth efo’r geriau’n cyrraedd uchafbwynt. Trwy weld y cymeriad yn ymgolli yn y cyfan, cawn sicrwydd nad yw bwyd yn rhywbeth i’w ofni bellach; mae’r cymeriad yn hawlio’r ryddhad unwaith eto, yn perchnogi’r naratif, ac yn ail-gydio yn yr awennau. Felly gadewch i’r rhythmau eich rhyddhau ac i’r geriau a’r gerddoriaeth gael eu llyncu.
Cyfarwyddo/Cynhyrchu – Aled Wyn Jones
DOP/Cyfarwyddo – Andy Pritchard
Cyfarwyddwr Artisig – Andrew Cowie
Is-Gynhyrchydd – Buddug Roberts
Rheolwr Cynhyrchu – Iona Rhys