Mae prosiect cyffrous newydd sydd yn mentora sgiliau trefnu a hyrwyddo gigs gyda phobl ifanc mewn ardaloedd o Gymru lle mae prinder cerddoriaeth byw wedi arwain at gig yng Nghaerfyrddin.
Bydd gig gyda Mellt yn cael ei gynnal yn Cwrw, Caerfyrddin nos Wener, Mehefin 24 2022, gyda chefnogaeth gan Dros Dro a Bald Patch Pegi, bandiau lleol o ysgolion yr ardal.
Trefnwyd y gig fel rhan o brosiect peilot rhwng PYST, Menter Gorllewin Sir Gar ac AM gyda chefnogaeth Dydd Miwsig Cymru gyda’r bwriad o annog a meithrin hyrwyddwr cerddorol y dyfodol drwy roi cyfle iddynt drefnu gig yn eu cymuned.
Mewn cyfres o sesiynau gyda chriw o bobl ifanc dros y ddeudfis diwethaf, trafodwyd pob agwedd o drefnu gig, o logi lleoliad i ddewis artistiaid i greu a gweinyddu cyllideb. Gyda chyngor gwesteion arbennig yn cynnwys Owain Williams (Klust, Gŵyl Newydd) ac Elan Evans (Maes B, Clwb Ifor Bach, Sŵn) aeth y bobl ifanc ati i drefnu a hyrwyddo’r gig, creu a gweinyddu cyllideb, bwcio’r ganolfan, cysylltu’r gyda’r artistiaid, dylunio a chreu’r poster, datblygu cynllun marchnata ac amryw gyfrifoldebau eraill.
Y gobaith yw y bydd y profiad yma yn annog ac yn ysbrydoli’r bobl ifanc i gynnal mwy o gigs yn y dyfodol, yn arwain at fwy o gerddoriaeth byw Cymraeg yn cael ei chwarae mewn ardaloedd gwahanol ledled y wlad.
Meddai Lea Glyn, Prif Swyddog Cynnwys AM “Mae’n hynod bwysig, yn enwedig yn sgil y pandemig, fod gigs lleol yn parhau i ddod a cherddoriaeth byw i gynulleidfaoedd gwahanol ar draws y wlad. Mae’r peilot yma yn profi fod gan y genhedlaeth nesaf yr angerdd, brwdfrydedd a’r sgiliau i drefnu, cynnal a hyrwyddo gigs, ac rydw i’n awyddus iawn i weld prosiectau tebyg yn cael eu gweithredu ar draws Gymru gyfan, i sicrhau bod hyrwyddwyr cerddoriaeth y dyfodol ym mhob cwr o’r wlad”