Tocynnau yn mynd ar werth Dydd Gwener 17 Hydref – www.wmc.org.uk
Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth ag Archif Ddarlledu Cymru, yn cynnal digwyddiad arbennig ar 27 Tachwedd 2025 yng ngofod Cabaret Canolfan Mileniwm Cymru, i ddathlu bywyd a gwaddol Geraint Jarman, a fu farw ar 2 Mawrth 2025. Bydd y darlledwraig Lisa Gwilym, a weithiodd yn agos gyda’r ef am flynyddoedd lawer, yn cadeirio panel o gydweithwyr a ffrindiau, gan rannu ac archwilio cyfoeth o luniau a sain archif. Gyda’i gilydd, byddant yn tywys y gynulleidfa drwy uchafbwyntiau o’i archif helaeth, gan gwmpasu actio, cyflwyno, cynhyrchu, ac, yn fwyaf cofiadwy, ei yrfa nodedig fel canwr a chyfansoddwr
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i un o Gorneli Clip Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o bedair ar ddeg ar draws y wlad, sy’n cynnig mynediad cyhoeddus am ddim i hanes darlledu cyfoethog y genedl ac yn cysylltu cymunedau â’r lleisiau, y straeon a’r eiliadau sydd wedi llunio Cymru fodern.
Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu gyda chefnogaeth teulu Geraint, sydd wedi gweithio gyda thîm archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddewis uchafbwyntiau o’i yrfa. Ymhlith y trysorau a fydd yn cael eu rhannu ar y noson mae recordiadau ohono yn lleisio’r Superted poblogaidd a’r Smurfs Cymreig, ynghyd â chynyrchiadau teledu fel Fideo 9, Criw Byw a Grito’r Hewl i Fethlehem. Bydd ei berfformiadau cerddorol yn rhychwantu’r degawdau, gan ddechrau gyda’i wreiddiau reggae ym Mae Caerdydd.
Siaradodd Nia Caron, gwraig y ddiweddar Geraint Jarman, ar ran y teulu a’i ferched Lisa, Hanna a Mared “Mae’n bwysig i ni fel teulu fod Geraint yn cael ei gofio am ei ystod eang o waith. Mae cymaint o bobl yn ei adnabod fel canwr-gyfansoddwr medrus, ond roedd yn diddori mewn llawer mwy, yn cynnwys radio, ffilm a theledu. Gyda dyfodiad S4C fe lwyddodd i wireddu ei weledigaeth gyda rhaglenni fel Fideo 9.
Rydym yn ddiolchgar i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am ei anrhydeddu yn y ffordd arbennig hon. Rydym hefyd yn falch y bydd unrhyw roddion o werthiant tocynnau yn mynd i Ymddiriedolaeth Geraint Jarman, cronfa newydd wedi’i hysbrydoli gan ei fywyd a’i waith i gefnogi creadigrwydd lleisiau newydd o bob cefndir a chymuned.”
Bydd panelwyr yn trafod uchafbwyntiau ei archif ar y noson yn cynnwys Keith Murrell, a weithiodd gyda Geraint yn gynnar yn ei yrfa ganu; Dafydd Rhys o Gyngor Celfyddydau Cymru, cydweithiwr ym myd darlledu am flynyddoedd lawer; a’r actores Sue Roderick, a fydd yn myfyrio ar yrfa actio a chyflwyno Geraint , gan gynnwys ei rôl fel PC Gordon Hughes ochr yn ochr â hi yn Glas y Dorlan (1977). Bydd gwesteion ychwanegol o bob rhan o fywyd proffesiynol Geraint Jarman hefyd yn bresennol, yn rhannu atgofion a mewnwelediadau.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Roedd Geraint Jarman yn eicon gwirioneddol o ddiwylliant Cymru, ac mae ei waith yn cwmpasu cymaint o feysydd, o gerddoriaeth i ddarlledu i actio. Mae Archif Darlledu Cymru yn bodoli i gadw a rhannu’r lleisiau a’r straeon sydd wedi llunio Cymru fodern, ac mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddathlu cyfraniad rhyfeddol Geraint Jarman. Drwy arddangos ei archif yn y digwyddiad byw hwn ac yn ddiweddarach ar-lein, rydym yn rhoi cyfle i bobl archwilio lled ei dalent a gweld yr effaith barhaol a gafodd ar ein bywyd diwylliannol. Gobeithiwn y bydd pawb yn ymuno â ni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru neu ar-lein i ddarganfod ac anrhydeddu ei etifeddiaeth nodedig.”
Mae Archif Ddarlledu Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu gwaddol darlledu Cymru ac mae’n bartneriaeth rhwng y Llyfrgell, ITV Cymru Wales, BBC Cymru Wales, ac S4C. Wedi’i hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, a’r Llyfrgell ei hun, ei chenhadaeth yw gwarchod a rhannu treftadaeth ddarlledu Cymru gyda phawb.
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae gwaith Geraint Jarman yn rhan hanfodol o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru, gan gwmpasu cerddoriaeth, darlledu, a chymaint mwy sydd wedi helpu i lunio ein cenedl. Mae Archif Ddarlledu Cymru a’r Corneli Clip yn helpu cymunedau i ailgysylltu â’r hanes a rennir hwnnw. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect hwn yn dod â chyfraniad rhyfeddol Geraint Jarman yn fyw mewn ffyrdd sy’n hygyrch ac yn ysbrydoledig, gan ddathlu ei effaith ar ddiwylliant Cymru.”
Mae tocynnau i “Geraint Jarman – Cofio’r Dyn ei Hun”, gyda rhoddion awgrymedig i Ymddiriedolaeth Geraint Jarman ar gael dydd Gwener 17 Hydref www.wmc.org. Diolch i’r holl bartneriaid darlledu, BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C, bydd y digwyddiad byw yn cael ei recordio a’i wneud ar gael i’w wylio ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn fuan wedyn, bydd y recordiad yn cynnwys clipiau archif estynedig.
Mae tocynnau am ddim ar gael dydd Gwener 17 Hydref: www.wmc.org.uk