Cartref digidol diwylliant Cymru.

Galwad Agored: Panel Pobl Ifanc / Open Call: Young People’s Panel

Llenyddiaeth

Ydych chi rhwng 17 ac 20 oed?

 

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn chwilio am unigolion sy’n mwynhau darllen, yn ogystal ag unigolion nad ydynt yn mwynhau darllen.

 

Rydym yn cynnig cyfle gwych i unigolion brwdfrydig sy’n barod i leisio barn i ymuno â phanel pobl ifanc. Byddwn yn trafod profiadau darllen, sut i hyrwyddo darllen, yn ogystal ag adnabod meysydd a themâu posib sydd angen eu targedu o fewn cyhoeddiadau yn y dyfodol.

 

Bydd y panel yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn (unwaith wyneb yn wyneb mewn lleoliad i’w gadarnhau, ac yna dau gyfarfod rhithiol). Cynigir ffi o £100 am fynychu pob cyfarfod.

 

Os oes gennych ddiddordeb, cwblhewch y FFURFLEN HON a’i dychwelyd i plant@llyfrau.cymru erbyn 6 Mawrth 2023.

 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â plant@llyfrau.cymru

RHANNWCH