Cartref digidol diwylliant Cymru.

Firefly commissions translation of multi-authored YA novel The Five

Llenyddiaeth

In this town…

Mae Penny Thomas, cyhoeddwr y wasg plant a phobl ifanc, Firefly Press, wedi sicrhau’r hawliau Saesneg Byd-eang ar gyfer nofel arobryn i bobl ifanc The Five (Y Pump) gan gyhoeddwyr Y Lolfa.

Cyhoeddwyd The Five yn wreiddiol yn Gymraeg fel cyfres o bum nofel a arweinwyd gan yr awdur a’r cynhyrchydd Elgan Rhys, gan ddefnyddio proses ysgrifennu arloesol a unodd awduron blaengar â chyd-awduron ifanc â phrofiad bywyd o’r pwnc. Mae’r cyfieithiad yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan un o’r awduron gwreiddiol, Mared Roberts, gyda mewnbwn gan yr awduron eraill.

Mae’r nofel yn canolbwyntio ar gyfeillgarwch pump o arddegwyr gwahanol iawn sy’n cael eu taflu at ei gilydd yn eu hysgol yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat yn brwydro dros ei gilydd ac am eu lle yn y byd, a hynny wrth wynebu cythruddedd ac amgylchiadau personol heriol. Gan gofleidio a gwyrdroi naratifau oedolion-ifanc confensiynol, mae The Five yn ddarlun unigryw a chyseiniol o fywyd pobl ifanc yng Nghymru heddiw.

Cyhoeddwyd pob nofel yn wreiddiol gyda phrolog gan enillydd Medal Yoto Carnegie 2023 Manon Steffan Ros, a oedd yn fentor creadigol ar y gyfres wreiddiol. Darllenwch addasiad llawn o brolog Manon yma


‘Cawsom ein swyno a’n plesio gan y broses radical a’r brwdfrydedd y tu ôl i The Five,’ meddai cyhoeddwr Firefly, Penny Thomas, ‘a rydym yn falch iawn y byddwn yn gallu dod â’r nofel hon i ddarllenwyr Saesneg eu hiaith.’

‘Rwy’n falch iawn o gael cydweithio â Firefly i ehangu byd y pum cymeriad yma a chroesawu mwy o ddarllenwyr i’w bywydau,’ meddai Elgan Rhys. ‘Arbrawf oedd proses gydweithredol y gyfres wreiddiol, ac mae wedi bod yn braf gweld darllenwyr a’r diwydiant yn ei chofleidio. Rwy’n sicr y bydd addasiad Mared yn parhau i ysbrydoli pobl ifanc, yn enwedig y rhai nad ydynt efallai wedi arfer gweld eu profiadau’n cael eu portreadu’n awthentig.’

A dywedodd Darren Chetty o Books for Keeps, ‘Rwyf wrth fy modd y bydd Y Pump yn cael ei gyfieithu i’r Saesneg. Mae The Five yn rhoi darlun o Gymru fodern, amrywiol ac fe’i grëwyd drwy broses arloesol, gydweithredol y gobeithiaf y gellir ei fabwysiadu’n ehangach mewn llenyddiaeth plant a phobl Ifanc. Mae’n stori aml-bersbectif a ysgrifennwyd gan awduron ifanc sydd wedi ymgolli yn genre a gwirionedd dod yn oedolyn yn yr oes sydd ohoni.’

Bydd y nofel yn cael ei chyhoeddi yn 2025.

Dysgwch fwy am ‘Y Pump’ yma

RHANNWCH