Cartref digidol diwylliant Cymru.

Ffurflen gais Datblygu Digidol | Digital Journey application form

No Categories Found

Cyfle i sefydliadau/cwmnïau bach!

Mae AM yn cynnig rhaglen fentora i’ch helpu i ddatblygu eich proffil digidol – AM DDIM

Mae’r cyfnod ymgeisio wedi dod i ben.

YNGLŶN AG AM

Lansiwyd AM ym mis Mawrth 2020 fel y wefan ac ap digidol cyntaf sy’n rhoi platfform i’r celfyddydau digidol yng Nghymru. Yn ei ddeunaw mis cyntaf tyfodd fel cartref i dros 380 o sianeli (cyfuniad o artistiaid a sefydliadau creadigol), dros 230,000 o ddefnyddwyr unigryw a dros 8000 o ddarnau cynnwys wedi’u lanlwytho – presenoldeb digidol a chynulleidfa ddiwylliannol newydd i Gymru. Mae’n blatfform sydd wedi’i seilio ar hwyluso a hyrwyddo diwylliant dwyieithog cynhwysol yng Nghymru ac felly mae cynnwys Cymraeg, cynnwys celfyddydau anabl, cynnwys LGBTQ+ a chynnwys gan artistiaid diwylliannol ac ethnig amrywiol yn flaenoriaeth ragweithiol. Mae hefyd yn blatfform sy’n ceisio rhoi mynediad cyfartal i sefydliadau hen a newydd, creawdwyr/ sefydliadau bach a mawr, wrth ddod â rhagor o greadigrwydd cymunedol i ‘lwyfan’ genedlaethol. Yn ystod eon blwyddyn gyntaf rydym wedi dysgu llawer sy’n llywio ein cyfeiriad yn y dyfodol a’r hyn y byddwn yn ei gynnig. Yn yr un modd rydym wedi edrych ar sianeli sy’n gwneud yr un fath. Y syniad wrth wraidd y prosiect yw dod â’r holl syniadau a chwestiynau hynny at ei gilydd drwy ymchwilio a rhannu a dysgu am rywfaint o’r camau nesaf yn y daith ddigidol i gelfyddydau Cymru ac i ddatblygu AM fel rhan hanfodol o’r daith honno i’r celfyddydau. 

PA FATH O SEFYDLIADAU ALL WNEUD CAIS?

  • Mae’n rhaid i bob sefydliad fod a sianel ar AM neu’n fodlon cael un.

  • Rydym yn gobeithio cefnogi sefydliadau llai a/neu gyda llai o adnoddau sy’n teimlo efallai eu bod wedi wynebu anawsterau yn sgil diffyg adnodau neu brofiad.
  • Mae gennym ddiddordeb penodol mewn sicrhau bod cyfranogwyr y rhaglen yn cynrychioli cymysgedd gytbwys o ran iaith, amrywiaeth a chydraddoldeb ynghyd â dosbarthiad daearyddol.

CANLYNIADAU A THARGEDAU RHAGLEN

Bydd y rhaglen yn cynnwys hyd at ddau ‘lab’ pwrpasol, wedi’u dyfeisio yn ôl eich rhaglen artistig, uchelgeisiau a’ch sefyllfa bresennol o ran gwaith digidol. Er nad ydynt yn cael eu cyfyngu i’r themâu hyn, mae angen i gyfranogwyr ganolbwyntio ar strategaeth ddigidol/ cymysg, dulliau cyflwyno, partneriaethau, marchnata, dealltwriaeth cynulleidfa a dadansoddi data.

MEINI PRAWF

Aelodau staff AM, sef Alun Llwyd, Mari Hedd Lewis, Lea Glyn, a aelod o bwrdd PYST Cyf.

Bydd y meini prawf ar gyfer dewis yn seiliedig ar:

  • Arloesi a herio’r syniad fel y mae’n cael ei gyflwyno

  • Yr angen ar hyn o bryd, gan ystyried maint ac adnoddau’r sefydliad
  • Hanes o weithio’n ddigidol
  • Iaith, cydraddoldeb ac amrywiaeth, dosbarthiad daearyddol

BETH SYDD EI ANGEN I FOD YN YMGEISWYR LLWYDDIANNUS?

  • Sesiwn lab unigol i gynllunio a nodi meysydd sydd angen mynd i’r afael â nhw i bennu’r arbenigedd sydd ei angen i gyflawni’ch uchelgais

  • Cwblhhau arolwg ar ddiwedd y rhaglen i nodi eich profiad a’ch barn.

Bydd amseriad y gweithdau lab yn dibynnu ar raglen artistig y cyfranogwyr. Bydd angen hyblygrwydd i gwblhau’r labiau unigol ac ar gyfer yr adborth terfynol.

Mae tryloywder a deall cysyniad y Datblygu Ddigidol a rhannu profiadau a dysgu gyda chyfranogwyr eraill yn rhan hanfodol o’r rhaglen hon. Bydd AM yn manteisio ar bob cyfle posibl i ddysgu ac esblygu ein hymarfer drwy’r rhaglen hon. Rydym yn ceisio gwella’r hyn rydym yn ei gynnig a rhoi gwell gwasanaeth i’r sector yn y dyfodol, ac mae’r meysydd ymarfer mwy arloesol a heriol o ddiddordeb i ni.

AMSERLEN

Bydd cyfranogwyr yn cael eu dewis.

Penderfynir ar ddyddiad dechrau’r rhaglen mewn cydweithrediad â’r garfan u ymgeiswyr llwyddiannus, ond rhagwelwn y bydd y rhaglen yn dechrau yn gynnar ym mis Medi 2024.

Er ein bod yn rhagweld y gallai llawer o sefydliadau gwblhau’r rhaglen hon o fewn dau i dri mis, rydym yn barod i gefnogi rhai teithiau hyd at chwech mis (ond dim mwy na hynny).

SUT FYDD YMGEISWYR LLWYDDIANNUS YN ELWA AR Y RHAGLEN?

Bydd llawer o fanteision amrywiol i’ch sefydliad yn sgil Datblygu Digidol:

  • Mentora dwys a phwrpasol am ddim law yn llaw â chyngor ymarferol gyda llwybrau i farchnata a hyrwyddo cynnwys.

  • Cefnogaeth barhaus gan arweinydd y rhaglen – rhyddid i’r sefydliad neu gyfranogwyr ofyn cwestiynau o fewn sesiynau un-i-un
  • Creu strwythurau a chysylltiadau ar gyfer twf digidol hirdymor mewn amgylchedd rhithiol a chymysg.

SUT MAE GWNEUD CAIS?

I wneud cais i fod yn rhan o’r rhaglen Datblygu Digidol, bydd angen i chi gwneud cais sy’n mynd i’r afael â’r uchod ac yn cynnwys:

1. Eich sefyllfa ddigidol bresennol, gan nodi’n benodol:

  • Rhaglen gwaith digidol presennol
  • Eich cryfderau mwyaf o ran gwaith digidol
  • Eich gwendidau mwyaf o ran gwaith digidol

2. Cyfansoddiad a chefndir eich sefydliad

  • Nifer y staff
  • Strwythur y sefydliad
  • Disgrifiad cryno o’ch hanes a’ch maes gwaith presennol

3.. Nodi pa aelodau staff yn eich sefydliad fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen (mae’n rhaid iddo/iddi fod yn aelod o’r tîm gyda chyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau yn y maes gwaith hwn)

Mae’r cyfnod ymgeisio wedi dod i ben.

Os ydych chi am drafod unrhyw agwedd ar y rhaglen Datblygu Digidol cyn cyflwyno’ch cais, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach am eich cais, e-bostiwch mari@pyst.net

RHANNWCH