Cartref digidol diwylliant Cymru.

Ffenast Siop

Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym

“Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.”

Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y menopos.

Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn – mi gewch chi’r cyfan.

Ymunwch â ni ar y daith arbennig hon, ac mae croeso i bawb, achos nid mater i ferched yn unig ydi’r menopos.

Meddai Iola: “Da ni’n dwy wedi dysgu bod chwerthin yn ffordd o lacio’r poen a’r ofn. Dyma gewch chi yn y sioe ac yn y sgwrs gobeithio!”

Ac i goroni’r cyfan bydd Mirsi hefyd yn ymuno â ni mewn sawl lleoliad ar hyd y daith i gynnal siop ‘pop up’ – felly dyma gyfle gwych i chi gael noson allan o chwerthin ymysg ffrindiau, i rannu profiadau ac i wneud mymryn o siopa.

Bydd hefyd cyfle i gymryd rhan mewn sgwrs greadigol anffuriol wedi ei arwain gan MWY mewn rhai o’r lleoliadau.

Beth allai fod yn well?

Canllaw oed 14+. Defnyddir iaith gref.

𝐂𝐚𝐬𝐭 – Carys Gwilym

𝐂𝐲𝐟𝐚𝐫𝐰𝐲𝐝𝐝𝐨 – Iola Ynyr

𝐂𝐞𝐫𝐝𝐝𝐨𝐫 – Osian Gwynedd

𝐓𝐞𝐜𝐡𝐧𝐞𝐠𝐲𝐝𝐝 – Llywelyn Roberts

𝐂𝐲𝐧𝐥𝐥𝐮𝐧𝐲𝐝𝐝 – Lois Prys

RHANNWCH