Yn Feral Monster, byddwn ni’n dilyn Jax, merch ddigon cyffredin yn ei harddegau, wrth iddi hi/iddyn nhw/beth bynnag ddelio â chariad, rhywioldeb, hunaniaeth, teulu a phrysurdeb di-baid ei hymennydd swnllyd, parod ei farn.
Mae Jax yn byw gyda’i Nain mewn pentref pitw, diflas; mae’n gymeriad digywilydd a hoffus, ac yn un o griw ifanc gwyllt y stryd. Wedi’i gwahardd o’r ysgol, dydy hi ddim yn gallu cael gwaith yn y siop tships, hyd yn oed. Wrth i acsonau a niwronau chwyrlio yn eu pen, bydd ymennydd Jax yn sylwebu’n barhaus am y pethau y byddan nhw’n eu gwneud, y pethau na fyddan nhw’n eu gwneud, a’r pethau na ddylen nhw’u gwneud. Wrth i Jax weld Ffion yn dod o’r siop tships, yn herfeiddiol yn eu gwallt a’u dillad swnllyd, mae’r gwreichion yn tasgu a chwant cwiar yr arddegau yn dod â’r pâr annhebygol hwn ynghyd yn ei holl ogoniant blêr, lletchwith a gwefreiddiol.
Mae Feral Monster yn ddathliad o bawb yn eu harddegau, ond mae’n gwneud hynny drwy hoelio’r sylw ar Jax, sy’n gyffredin o ddi-nod. Bydd unrhyw un sydd wedi mynd drwy’r arddegau yn eu gweld eu hunain yn y stori hon, wrth i sgript yr awdur Bethan Marlow ein dwyn o’r uchelfannau gwychaf i’r gwaelodion dyfnaf ar drên gwib hormonaidd y glasoed. Ochr yn ochr â hunaniaeth, rhywioldeb a theulu, mae Feral Monster yn trin a thrafod cyfeillgarwch, iechyd meddwl, y Gymru wledig, y bydoedd cwiar dosbarth canol a dosbarth gweithiol, rhieni sy’n troi’u cefnau ar eu plant, ac ail gyfle.
Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, bydd trac sain y sioe gerdd yn dod â geiriau a chymeriadau Bethan yn fyw. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Nicola T. Chang ar y cyd â’r cyfarwyddwr Izzy Rabey ac actorion drwy Gymru yn ystod proses ymchwil a datblygu. Mae Nicola yn gyfansoddwraig/dylunydd sain llwyddiannus yn y byd theatr a ffilm, ac mae’i gwaith diweddar yn cynnwys y sioeau nodedig: For Black Boys Who Have Considered Suicide When the Hue Gets Too Heavy (Apollo Theatre West End / Royal Court Jerwood Downstairs / New Diorama) a My Neighbour Totoro (RSC / Barbican).
Dysgwch fwy am y sioe yma