Er Cofid 19
gan Er Cof
4 Ffrind. 6 Awr. Cannoedd o Eiriau. Dyma Er Cofid 19.
O gwisiau Zoom i sesiynau ffitrwydd ar-lein, o weithio o’r ’stafell sbâr i glywed fersiwn annisgwyl o Calon Lân – dyma ein normalrwydd newydd.
Yn y perfformiad digidol cyntaf o’i fath drwy gyfrwng y Gymraeg, ymunwch â phedwar ffrind dan glo, wrth iddynt ladd amser, pryfocio a rhoi’r byd yn ei le mewn marathon theatraidd.
Comisiwn Digidol Newydd Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales, mewn partneriaeth gyda BBC Cymru Wales a BBC Arts
Artistiaid: Nannon Evans, Megan Cynllo Lewis, Meleri Morgan, Naomi Nicholas