SENGL GYNTAF EMMA DAVIES-WARHURST
Mae Cystadleuaeth Band/Artist Unigol Blwyddyn 7-13 Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bob blwyddyn fel rhan o Ŵyl Triban. Y llynedd, yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn, Emma Davies-Warhurst o Ysgol Uwchradd Aberteifi ddaeth i’r brig gyda’i chân gwreiddiol, ‘I’r Nefoedd’.
Mae Emma yn hen law ar gyfansoddi, ysgrifennu a pherfformio caneuon ei hun. Mae’n chwarae nifer o offerynnau gan gynnwys y piano, sydd i’w chlywed ar ei sengl gyntaf. Mae hi a’i chwaer hefyd wedi sefydlu grŵp canu o’r enw Chwaer ac maen nhw’n brysur iawn yn perfformio mewn nifer o gigs o gwmpas Gorllewin Cymru. Mae’r grŵp hefyd dan label Fflach Cymunedol.
Cafodd gwobr Cystadleuaeth Band/Artist Unigol Blwyddyn 7-13 Eisteddfod yr Urdd 2024 ei ariannu gan Gronfa Fideos PYST x Lŵp ac felly yn sgil ennill y wobr, cafodd Emma y cyfle i recordio ei chân buddugol mewn stiwdio broffesiynol yn Stiwdio JigCal, Caerdydd gyda Mei Gwynedd.
Yn ogystal â hynny, cafodd myfyriwr ffilm a fideo ifanc Ruby Smith-Brown y cyfle i ffilmio fideo cerddoriaeth ‘I’r Nefoedd’ o amgylch Aberteifi, tref enedigol Emma. Mae’r cyfle yma wedi bod yn brofiad bythgofiadwy i Emma a gobeithio y bydd hyn yn agor mwy o ddrysau iddi fel cantores a chyfansoddwraig ifanc.
Bydd ‘I’r Nefoedd’ allan yfory 7fed Chwefror law yn llaw â’r fideo ar AM.