Eluned Morgan – ein Prif Weinidog anfoddog

Llenyddiaeth

Lai na blwyddyn yn ôl, nid oedd Eluned Morgan yn chwennych bod yn Brif Weinidog. Bellach mae wedi etifeddu’r fantell honno mewn gwlad sy’n gynyddol feirniadol o berfformiad y Llywodraeth Lafur. Ai yn ystod ei chyfnod hi wrth y llyw y gwelwn dra-arglwyddiaeth Llafur yng Nghymru yn dechrau dod i ben?

Pan gyhoeddodd Mark Drakeford ganol mis Rhagfyr y llynedd ei fwriad i gamu o’r neilltu fel Prif Weinidog, bu cryn ddyfalu a fyddai Eluned Morgan ymysg y rheini a fyddai’n ceisio ei olynu. Rhoddodd gynnig arni yn y ras i olynu Carwyn Jones, a gyda’r ddau ymgeisydd tebygol arall – Vaughan Gething a Jeremy Miles – yn iau na hi, y dybiaeth oedd mai dyma fyddai ei chyfle olaf i gael ei dyrchafu’n arweinydd Llywodraeth Cymru.

 

Dwn i ddim i ba raddau y rhoddodd ystyriaeth ddifrifol i ymgeisio. Ond yn hytrach na gwneud hynny, yr hyn a gafwyd ganddi oedd ymdrech i goroni’r buddugwr a hynny trwy enwebu Gething – enwebiad a ystyrid ar y pryd fel un arwyddocaol.

 

Byddai’n ddiddorol gwybod beth yr oedd Morgan yn ei ddisgwyl ar lefel bersonol gan lywodraeth wedi ei harwain gan Vaughan Gething? Y dyfalu oedd ei bod â’i bryd ar ddiosg ei chyfrifoldebau fel Gweinidog Iechyd a threulio gweddill tymor y Senedd bresennol mewn swydd arall fyddai ddim cweit mor anferthol a chwbl ddiddiolch – a hynny gan fwynhau’r statws fyddai’n deillio o’r ffaith fod y Prif Weinidog newydd yn ddyledus iddi am ei chefnogaeth.

 

Os oes unrhyw wirionedd i’r dyfalu, go brin y gallai ei gobeithion fod wedi cael eu chwalu’n fwy trwyadl. Afraid ailadrodd yr holl hanes mewn manylder yma. Digon yw dweud fod parodrwydd Gething i ariannu ei ymgyrch gyda rhoddion yr oedd llawer yn ei blaid ei hun – heb sôn am bobl Cymru – yn eu hystyried yn annerbyniol wedi golygu mai Pyrrhig oedd y fuddugoliaeth a gafodd. Un canlyniad oedd ei fod yn rhy wan yn wleidyddol i ad-drefnu ei lywodraeth yn y modd a ddeisyfai. Bu’n rhaid i Morgan aros yn Weinidog Iechyd trwy burdan pedwar mis ei deyrnasiad.

 

Yna, wedi ei ddiorseddiad, dyma’r bobl hynny yr arferid cyfeirio atynt mewn dyddiau llai goleuedig fel ‘y dynion mewn siwtiau llwyd’ yn penderfynu mai Morgan yn hytrach na Miles a ddylai ei olynu. Ac felly y bu. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod cadarnhawyd Eluned Morgan yn Brif Weinidog Cymru gan etifeddu swydd sy’n cymharu o ran llwyth gwaith â swydd y Gweinidog Iechyd, ac sydd – o bosibl – hyd yn oed yn fwy diddiolch. Nid fel hyn yr oedd pethau i fod!

 

Mae’n anodd gor-ddweud y sialens sydd bellach yn ei hwynebu.

 

Heb os, mae teyrnasiad trychinebus Vaughan Gething wedi creu rhaniadau dyfnion oddi mewn i’r Blaid Lafur Gymreig, ac nid ar chwarae bach y bydd eu pontio. Gan mai ef oedd ei dewis ddyn ar gyfer yr arweinyddiaeth, bydd yn rhaid i Eluned Morgan ysgwyddo ei chyfran o’r bai am hynny. Eto, nid y Prif Weinidog newydd sydd yn gyfrifol am y tensiynau amlwg rhwng Aelodau Seneddol Llafur yn San Steffan a’u cyd-bleidwyr yn Senedd Caerdydd, tensiynau sydd hefyd yn llesteirio’r blaid. Does ryfedd fod ‘yr angen am undod’ wedi dyfod yn ffasiwn dôn gron ymysg Llafurwyr yng Nghymru, yn gyhoeddus o leiaf – ychydig iawn o dystiolaeth sydd yna i awgrymu fod dim wedi newid y tu ôl i’r llenni.

 

Ond er mor flinderus yw’r rhaniadau a’r cecru personol, nid dyma’r broblem fwyaf sy’n wynebu Eluned Morgan, a hynny o bell ffordd. A chymaint o sylwebaeth wleidyddol yn canolbwyntio ar bersonoliaethau a rhaniadau, mae’r her fawr i Lafur lawer iawn yn fwy sylweddol, sef canfyddiad negyddol etholwyr Cymru o berfformiad y llywodraeth a fu’n ei harwain ers dros chwarter canrif. Yn syml, mae pobl yn credu bod safon y gwasanaethau hynny sy’n brif gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru wedi gwaethygu ac yn tueddu i dadogi’r bai am hynny ar Eluned Morgan a’i chydweithwyr.

 

Wele ddau dabl sy’n cadarnhau’r pwynt, tablau sy’n arddangos data a gasglwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd fel rhan o Astudiaeth Etholiad Cymru 2024.

 

Mae’r cyntaf yn dangos ymatebion i gwestiwn oedd yn holi ynglŷn â’r newid yn safon y gwasanaeth iechyd a’r gyfundrefn addysg yng Nghymru dros y pum mlynedd ddiwethaf. Mae’r canlyniadau yn drawiadol ac yn sobreiddiol. Dim ond 3% o’r etholwyr sy’n credu bod safon y gwasanaeth iechyd wedi gwella o’i gymharu â 87% sy’n credu ei fod wedi gwaethygu, boed hynny ychydig neu lawer. Dim ond mymryn yn llai trychinebus yw’r canfyddiadau ynghylch safon addysg, gyda 55% o’r etholwyr yn credu bod pethau wedi gwaethygu o’i gymharu â 6% sy’n gweld gwelliant.

 

 

Y cwestiwn mawr o ran effaith gwleidyddol hyn oll, wrth gwrs, yw pwy sy’n cael eu dal yn gyfrifol am ddiffygion y gwasanaethau hynny? Prysuraf i ddweud fod mwy nag un ateb posibl i’r cwestiwn, yn eu plith Covid, chwyddiant, a chyfres o lywodraethau Prydeinig ansefydlog sydd wedi gorfodi setliadau ariannol crintachlyd ar y lefel ddatganoledig. Yn wir, yn y gorffennol, bu tuedd amlwg ymysg etholwyr Cymru i feio Llywodraeth Prydain am wendidau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, hyd oed y rheini oedd yng ngofal Llywodraeth Caerdydd. Ond fel y gwelir o’r ail dabl, mae’r rhod wedi troi. Bellach mae mwy – llawer mwy, yn achos addysg – yn dal Llywodraeth Cymru yn hytrach na Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyfrifol am ddiffygion rhai o’n gwasanaethau cyhoeddus amlycaf.

 

 

Gydag ychydig dros ddeunaw mis yn unig cyn yr etholiad Cymreig nesaf, mae hyn oll yn cynrychioli talcen caled ar y naw. Oes yna unrhyw obaith realistig y gellir altro’r canfyddiad o berfformiad ein gwasanaethau cyhoeddus? A ddigwydd hynny mewn cyfnod mor fyr, heb arian ychwanegol – neu hyd yn oed llai o arian mewn termau real, diolch i geidwadaeth ariannol y Canghellor Rachel Reeves – gyda chabinet sydd yn amlwg yn sylweddol wannach na chabinet diwethaf Mark Drakeford, a chyda gwasanaeth sifil sydd yn amlwg eisoes dan straen? Go brin.

 

Os felly, yr opsiwn arall yw ‘symud y bai’ – hynny yw, dwyn perswâd ar yr etholwyr na ddylent feio Llywodraeth Cymru am ddiffygion iechyd, addysg, ac yn y blaen, ond yn hytrach rhywun neu rywrai eraill. Yn fwyaf amlwg, fe ellid ceisio’u hargyhoeddi mai’r Llywodraeth yn Llundain sy’n haeddu’r bai wedi’r cyfan. Ond tra oedd hynny’n bosibl pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym, ers etholiad cyffredinol mis Gorffennaf mae hynny lawer yn anos. Fe fydd yn anos fyth erbyn mis Mai 2026 pan fydd Llafur wedi bod mewn grym ar lannau Tafwys ers bron i ddwy flynedd.

 

Efallai fod gan Eluned Morgan a’i chynghorwyr strategaeth glyfar i fynd i’r afael â hyn oll. Ond os felly, wela’i ddim golwg ohoni. Yn sicr, tydi rhaffu ystrydebau ynglŷn â ‘gwrando ar flaenoriaethau’r bobl’, enghraifft glasurol o sbin yn hytrach na sylwedd, ddim yn cyfrif. Y perygl yw, yn hytrach, mai’r Prif Weinidog newydd – Prif Weinidog anfoddog, ar lawer ystyr – fydd y gwleidydd fydd yn dal yr awenau wrth i hegemoni Llafur yng Nghymru ddechrau dadfeilio ar ôl canrif o ddominyddiaeth.

 

Richard Wyn Jones

 

RHANNWCH