Cartref digidol diwylliant Cymru.

Elfyn Lewis – Anochel

Drwy fy ngwaith, dw i’n tystio. Mae’n fy nghynrychioli i, a’r lle y ces fy magu – yn Gymro Cymraeg sy’n ffeindio ei lais drwy iaith ryngwladol  – Elfyn Lewis

Pleser yw cyhoeddu arddangosfa undyn Elfyn Lewis – y 5ed rydym wedi ei chynnal gyda’n gilydd

Roedd amseru ei arddangosfa blaenorol yn anodd iawn – agorwyd hi ychydig ddyddiau cyn lockdown 1 yn 2020. Ond, nid yn unig rydym wedi dod drwyddi ond mae hefyd ddatblygiad pwysig yng ngwaith cyfarwydd Lewis – sef ‘dal’ llif y paent. Mae’r paent – sydd cymaint rhan o’r gelf, ac yn elfen nodedig o’r gwaith – yn awr fel petai wedi’i rewi yn y fan. Daw’r haenau hynny yn fwy amlwg fyth wrth gronni yn byllau ar ymylon yr arwynebedd, wedi’u dal gan bren wedi’i dorri a laser. Dyma rhan o broses Lewis sef yr hyn oedd yn cael ei adael ar ol ar fwrdd y stiwdio – y gorlifo hwnnw nawr yn rhan allweddol o’r gwaith ac yn teneuo ymhellach y ffin rhwng cerflun a paentiad

Anochel yn wir oedd y byddai Lewis yn llwyddo datrys y mater a datgloi drws arall yn ei yrfa artistig – a hynny tra bod y byd dan glo

RHANNWCH