Mae ‘Lord Build Me A Cabin’ yn llythyr serch absẃrd seicoddaearyddol i Gymru sy’n archwilio hunaniaeth, diwylliant a chysylltiad.
Mae’r ffilm fer yn defnyddio elfennau o berfformio, tecstilau a ffilm 16mm draddodiadol wedi’i phaentio â llaw i ysgogi ymdeimlad o gynefindra a pherthyn. Mae ‘Lord Build Me A Cabin’ yn archwilio’r cysylltiadau darfodedig rhwng Queers Cymreig cyfoes, a’u gwreiddiau daearyddol, diwylliannol a theuluol.
Gyda ffocws ar themâu cydsefyll; mae’r ffilm yn defnyddio clipiau sain o sgyrsiau anffurfiol gyda thad-cu’r artistiaid i edrych yn ôl ymhellach i’r gorffennol, ac atgyfnerthu pwysigrwydd undod, cyfathrebu a bricolage.