Wrth feddwl am gysyniad ar gyfer y briff hwn, roeddwn i’n gwybod fy mod am ddefnyddio llif gadwyn ar iâ a fy mod am wneud sylwadau ar ein brwydr gyfunol gyda’r pandemig, yn fwy penodol y cyfyngiadau cymdeithasol a osodir gan y cyfnodau clo a phellhau cymdeithasol.
Mae cael blwyddyn gyfan i ffwrdd o gerfio iâ, sy’n rhywbeth rwy’n ei wneud yn ddyddiol fel arfer, wedi bod yn rhyfedd ac afraid dweud fy mod yn gweld ei eisiau, ond dyw hynny’n ddim byd o’i gymharu â’r golled mae rhai pobl wedi’i phrofi drwy’r sefyllfa sydd ohoni. A dyw fy nheimladau o weld eisiau’r gwaith yn ddim wrth ymyl fy nheimladau o weld eisiau ffrindiau, teulu a bywyd yn gyffredinol.
Roeddwn i am ddal eiliad mewn amser. Plentyn a’i thad-cu wedi’u rhewi mewn amser yn methu â chofleidio i amlygu anobaith a rhwystredigaeth ein sefyllfa.
Fy ngobaith yw y bydd y cyfyngiadau cymdeithasol hyn yn toddi ymaith yn llwyr, ac y bydd gan bawb well gwerthfawrogiad o’r pethau mewn bywyd y gallem ni fod wedi’u cymryd yn ganiataol.
Click here to view the Our Creative Place Storymap and more information the project