Cartref digidol diwylliant Cymru.

Eden – Siwgr

Cerddoriaeth

Ail sengl Eden o’r flwyddyn ‘Siwgr’.

Yn dilyn llwyddiant ‘Caredig’ fis diwethaf (y fideo’n cael ei wylio dros 40,000 o weithiau o fewn y 24 awr gyntaf) mae’r band yn barod i ryddhau eu tiwn nesaf ar ffurf alaw bop felys wedi’i chyfansoddi gan Yws Gwynedd, Rich James Roberts a Ifan Siôn Davies.

Mae Non, Emma a Rachael, sydd i gyd yn troi’n 50 eleni, yn falch i gael dymchwel stereoteipiau a gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl yn y sin gerddoriaeth Gymraeg.

Er iddynt ffurfio dros 30 mlynedd yn ôl, mae’n edrych yn debyg mai 2024 fydd eu blwyddyn brysuraf hyd yma, gyda mwy o gerddoriaeth gyffrous i ddod – gwyliwch y gofod.

Cyfarwyddwr : Ynyr Morgan Ifan
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth: Llion Gethin
Cyfarwyddo Symudiad : Elan Isaac
Cynorthwyydd Camera 1af : Lewis Morgan
Adnoddau : Firebug
Colur a Gwallt : Lisa Pugh
Golygu : Brychan England
Cynhyrchu : Ynyr Morgan Ifan, Owain Jones & Catrin Morris

RHANNWCH