Cartref digidol diwylliant Cymru.

DWY – Artist Preswyl 2025

Cerddoriaeth

Enlli a Lleucu yw Dwy – deuawd ffliwt deinamig o Gaerdydd. Maent yn gerddorion sy’n cyfuno eu diddordebau mewn alawon gwerin, dawns traddodiadol, cerddoriaeth glasurol a diwylliant Cymreig i gynhyrchu gwaith sy’n ymgorffori effeithiau electroneg a thechnegau estynedig mewn cyflwyniadau sy’n creu sain unigryw, egnïol a chofiadwy.

Yn 2023 enillodd Dwy gomisiwn gan yr Eisteddfod Genedlaethol a Chyngor y Celfyddydau i greu perfformiad awyr agored fel rhan o brosiect WYTH a fyddai’n gwthio’r ffiniau traddodiadol a dod â dawns y glocsen at gynulleidfaoedd newydd. Mae Dwy wedi mwynhau datblygu ac ehangu ar y syniad hwn ers hynny.

Preswyliad Cerddoriaeth a Pherfformio – 19 Gorffennaf – 2 Awst 2025

Dwy yw’r cerddorion cyntaf i gymryd rhan yn rhaglen breswyliadau Ynys Enlli, ac roedd yn wych clywed eu cerddoriaeth yn teithio o amgylch y dirwedd ar wynt y môrTroesant y stiwdio yn safle perfformio, yna’n weithdy clocsio, ac yn ddiweddarach yn yr wythnos, yn lwyfan ar gyfer sioe. Datblygon nhw ddarn cerddorol a berfformiwyd wedyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y 7fed o Awst 2025.

www.dwy.cymru  

@dwy.music 

RHANNWCH