Actorion/Actors: Mali O’Donell a Mari Elen Jones
Criw/Crew: Griff Lynch, Caryl McQuilling, Richard Roberts a Iwan Standley
Cyfarwyddo/Director: Emmy Stonelake
Mae Josie a Laura yn chwiorydd agos. Dros y blynyddoedd mae’r ddwy wedi bod yn sownd i’w gilydd ond yn ddiweddar, mae Laura wedi dechrau drifftio i ffwrdd. Allan o unman mae gan Laura gariad newydd – bachgen dirgel o’r enw Imrie.
Ond o ble ddaeth Imrie? Pam mae ei gysylltiad â’r môr mor gryf? A all Josie wneud unrhyw beth i atal ei chwaer rhag ddrifftio i ffwrdd?
Mae’r gwaith yn rhan o gynllun Sgwennu Newydd Frân Wen gyda Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru.