Drychwll – Siân Llywelyn

Llenyddiaeth

Gwasg Carreg Gwalch, £8.00
Lansiad digidol: Eisteddfod AmGen, nos Lun 6 Gorffennaf am 8yh

Ganol Mehefin, mae awdur newydd o Benrhyndeudraeth yn cyhoeddi ei nofel gyntaf ‒ ddeufis yn hwyr oherwydd y clo mawr.
Mae Drychwll yn dilyn hynt a helynt Mabli, newyddiadurwraig ifanc, ddeniadol a hyderus sy’n prysur ddringo ysgol ei gyrfa. Pan gaiff ei rhoi ar drywydd stori o’r archif am ddiflaniad academydd lleol, mae’n cael ei thynnu i sefyllfa arswydus ac anghredadwy: diflanna tri o’i chyfeillion oddi ar wyneb y ddaear, a does ganddi ddim syniad i ble. Dim ond un person all ei helpu i’w cael yn ôl, ac mae hwnnw’n ddirgelwch llwyr. All Mabli lwyddo i achub ei ffrindiau cyn iddi hithau brofi’r un ffawd â nhw?
Medd Siân am ei nofel, sy’n plethu hanes a ffantasi, ‘Wn i ddim o ble ddaeth y syniad, ond ro’n i wedi bod yn gwylio’r gyfres ddrama Torchwood ar ddiwrnod llwydaidd o haf. Mi ddaeth y chwiw sgwennu drosta i, a’r awydd i greu rhywbeth oedd ag awyrgylch arswydus.

RHANNWCH