Mae Nefyn wedi bod yn enigma erioed, hyd yn oed i’w brawd Joseph y mae’n byw gydag ef mewn bwthyn bach uwchben cildraeth blodeuog. Gwneuthurwr mapiau o Syria yw Hamza, sydd wedi’i garcharu mewn canolfan filwrol ychydig filltiroedd i fyny’r arfordir. Bydd storm ffyrnig yn dod â’r ddau enaid coll hyn at ei gilydd – ond cyn bo hir bydd lluoedd eraill yn ceisio eu rhwygo’n ddarnau…
Wrth symud rhwng arfordir gwyllt Cymru a Syria sydd wedi’i rhwygo gan ryfel, mae Drift yn stori garu wahanol, yn stori hypnotig am hunaniaeth goll, , chwilio am gartref a gwytnwch rhyfeddol yr ysbryd dynol.
Dysgwch fwy am Caryl Lewis a ‘Drift’ yma