Gwneuthurwr theatr o Gymru yw Chris Harris. Mae’n gweithio yn y Gymraeg a’r iaith Saesneg. Mae wedi gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru, Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd, Ensemble Modern, Theatr y Sherman, National Theatre Wales, Cwmni Theatr Arad Goch, Opera’r Ddraig, Canolfan Celfeddydau Aberystwyth ac Opra Cymru. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar lawer o brosiectau annibynnol gyda sawl cwmni mawreddog ledled Cymru.