Mae Barnaby Southgate yn gyfarwyddwr cerddoriaeth, cyfansoddwr a phianydd o Gaerdydd. Ers y clo mawr, yn ogystal â dysgu a recordio cerddoriaeth o’i gartref, mae Barnaby wedi bod yn datblygu ei sgiliau Cynhyrchu a Dylunio Sŵn o’i stiwdio gartref yn cyd-weithio gyda chwmnïau fel Theatr na nOg, Theatr Genedlaethol Cymru, Chippy Lane, The Far Away Plays a CBCDC. Derbyniodd Barnaby arian gan y Cyngor Celfyddydau i ddatblygu ei brosiect sain fydd yn cael ei ryddhau yn Rhagfyr 2020. Fe gwrddodd Barnaby â Chris nôl yn 2018 pan weithiodd y ddau gyda’i gilydd ar berfformiad Theatr Genedlaethol Cymru ‘Nyrsys’, mae Barnaby wrth ei fodd yn gweithio fel Dylunydd a Pheirianydd Sain ar ‘The Atlantis Project’.