Cartref digidol diwylliant Cymru.

DOD I ADNABOD GOLYGYDDION CARA

No Categories Found

Hoff bodlediad:
E: Ar hyn o bryd dwi’n mwynhau Cwȋns gyda Mari Beard a Meilir Rhys Williams a The C Word gyda Lena Dunham ac Alissa Bennett.
M: Table Manners – siarad am fwyd gyda selébs.

Hoff gân:
M: ‘Adre’ gan Caryl Parry Jones.
E: ‘How Will I Know’ gan Whitney Houston – wastad yn gwneud i fi ddawnsio. Neu, i barhau ȃ’r thema, ‘Tybed wyt ti’n rhy hen’ gan Bando.

Hoff gyfres deledu:
E: Mad Men, Parks and Recreation, Strictly.
M: In My Skin ar hyn o bryd, The Bridge, a Married at First Sight Australia!

Hoff ffilm:
E: Chicago, Get Out neu The Big Sick – tri genre cwbl wahanol, dwi’n gwybod!
M: Grease. Dod ag atgofion o hwyl fy arddegau.

Hoff lyfr:
E: Cwestiwn lot rhy anodd – wastad yn mwynhau llyfrau Sally Rooney, Brit Bennett a Leïla Slimani.
M: Hm, anodd iawn, dwi’n cytuno. Wedi mwynhau nofelau Joanne Harris sydd wedi eu gosod yn Ffrainc, fel Chocolat a The Strawberry Thief. A tu ôl i’r awyr Megan Hunter.

Hoff lun/artist:
E: Seren Morgan Jones (a gallwch ddarllen cyfweliad gyda hi a’i mam, Annie Suganami, yn rhifyn Gwanwyn 2021 Cara!)
M: Aneurin Jones, fy athro Celf yn yr ysgol.

Hoff flas hufen iâ:
E: Cyfuniad o siocled a hazelnut.
M: Salted caramel.

Hoff ddilledyn:
E: Fy nghot fflyffi oren.
M: Legins du!

Hoff le yn y byd:
E: Traeth Ynyslas ger Aberystwyth ac unrhyw le yng Ngwlad Groeg!
M: Groeg i fi hefyd; y lôn wrth y môr yn Puerto Pollensa, Mallorca; a soffa’r ardd yn yr haul.


Peth cynta ti’n neud yn y bore:

E: Yfed peint o ddŵr.
M: Golchi ’ngwallt.

Rhywbeth sydd wastad yn dy fag:
E: Lip balm Malin + Goetz ac eli dwylo Neal’s Yard.
M: Beiro, cardiau busnes Cara a tishws.

Beth brynest ti ddwetha:
E: Potel ddŵr poeth i ’nghael i drwy’r gaeaf!
M: Rhuban gwyrdd i’w lapio o gwmpas pecynnau o gylchgronau Cara ar gyfer stondin marchnad Dolig.


Pryd bwyd neu barti delfrydol:

E: Bwyd da a digon o win gyda fy holl ffrindiau a theulu yn gwylio’r machlud.
M: Gyda’r teulu mewn taferna bach wrth y môr yn bwyta bwydydd ffres lleol.

Rhywun hoffet ti gwrdd ag e/hi:
E: Hoffwn i gael pryd o fwyd gyda Dolly Parton, Elizabeth Taylor a Richard Burton a Bob Mortimer!

Cadw’n ffit:
E: Dim lot! Ioga a fideos dawnsio ar YouTube.
M: Dim digon!

Rwtîn colur:
E: Ddim yn gwisgo llawer o golur ar hyn o bryd ond yn hoff iawn o gynhyrchion gofal croen Oat Cleanser Inkey List, toner/serum Fenty, moisturizer TooFaced ac eli haul The Ordinary.
M: Moisturizer dydd a nos Olay Total Effects, Retinol Tonic Pixi, a Nivea Soft Rose ar gyfer y gwefusau.

Peth ola ti’n neud cyn mynd i gysgu:
M: Darllen am ryw 10-15 munud. Mae pentwr o lyfrau wrth ymyl y gwely.
E: Ceisio peidio edrych ar fy ffôn cyn mynd i gysgu, felly dwi’n darllen hefyd.

Llun Instagram/postiad Facebook mwya poblogaidd:
E: Llun graddio fy ngradd meistr gyda’r capsiwn ‘Ry’n ni M.A. o hyd’.
M: Llun yn edrych i lawr ar Borth, Ceredigion yn ystod tywydd braf y cyfnod clo cyntaf.


Gwyliau gorau (wedi cael, neu yn dy freuddwydion):

E: Teithio am dri mis yn Asia gyda fy nghariad 4 blynedd yn ôl – er, wnes i fwynhau fy ngwyliau i Dyddewi’n fawr iawn eleni!
M: Breuddwydio am deithio dros y byd am fis ar y tro – ar ôl ymddeol…

Beth sy’n gwneud i ti…

… grio?:
M: Gorfod ffarwelio â rhywun ar fws neu drên.
E: DIY SOS.

… fod yn grac?:
E: Lot o bethau ar Twitter!
M: Boris! Brexit. A phob math o anghyfiawnder.

… chwerthin?
E: Hel atgofion gyda fy ffrindiau am ein dyddiau coleg.
M: Gweld rhywun yn llithro!

… deimlo cywilydd?:
E: Ar ôl noson allan pan mae gen i deimlad ’mod i wedi mwydro pobl drwy’r nos.
M: Rhewi/rwdlan wrth wneud cyfweliad neu siarad yn gyhoeddus!

RHANNWCH