Cartref digidol diwylliant Cymru.

Dod i adnabod awduron Gwobrau Tir na n-Og 2023: Rhestr gynradd

Llenyddiaeth

Ar restr fer gynradd Gwobrau Tir na n-Og eleni mae, Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor gan Luned Aaron, darluniau gan Huw Aaron, Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan gan Manon Steffan Ros, darluniau gan Valériane Leblond a Dros y Môr a’r Mynyddoedd – Straeon Merched Dewr y Celtiaid – gan awduron amrywiol, lluniau gan Elin Manon.

Dyma gyfle i ddod i adnabod yr awduron.

Luned Aaron

Awdur Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor (Atebol)

O ble rydych chi’n cael eich syniadau?

Pethau bach bob dydd sy’n sbarduno’r dychymyg fel arfer. O ran ysgrifennu yn benodol ar gyfer plant, mae dod yn rhiant wedi bod yn sbardun creadigol enfawr. 

Hoff lyfr o’ch plentyndod? 

Lleuad yn Olau gan T. Llew Jones a Jac Jones.

Hoff air? 

Dilyffethair. 

Y superpower fyddech chi’n ei ddewis?

Gallu peidio cysgu er mwyn cael mwy o amser! 

Oes gennych chi gyngor i rywun sy’n trio ysgrifennu?

Darllenwch, darllenwch, darllenwch! A darllenwch y llyfrau sy’n eich diddori chi. Mae’n syniad rhoi geiriau ar bapur a nodi syniadau pan maen nhw’n taro, heb boeni am gywirdeb iaith a ballu ar y cychwyn. Buan mae darn o waith yn datblygu wrth roi’r amser iddo. Mi fyddwn i hefyd yn annog unrhyw un sy’n hoffi ysgrifennu i gadw dyddiadur – mae’n arfer dwi wedi ei chadw ers o’n i’n ddeg oed. 

Manon Steffan Ros

Awdur Enwogion o Fri: NyeBywyd Angerddol Aneurin Bevan (Llyfrau Broga)


O ble rydych chi’n cael eich syniadau?

Bob man! Yn aml iawn wrth gerdded, neu o sgyrsiau dwi’n eu cael efo pobol, neu o bodlediadau neu raglenni radio dwi’n gwrando arnyn nhw. Dydi cael y syniad ddim yn broblem – mae gen i ormod! Y tric ydi penderfynu pa rai fydd yn gweithio fel llyfr.

Hoff lyfr o’ch plentyndod?

Boy gan Roald Dahl ac O’r Tywyllwch gan Mair Wynn Hughes.

Hoff air?

Trugaredd.

Y superpower fyddech chi’n ei ddewis?

Dwi’n meddwl ’swn i wir yn mwynhau’r teimlad o allu hedfan.

Oes gennych chi gyngor i rywun sy’n trio ysgrifennu?

Cofiwch fod pob awdur yn gweithio’n wahanol i’w gilydd, a does ’na ddim ffordd anghywir o adrodd stori. Mae rhai awduron yn gwneud cynllun pendant cyn sgwennu gair, a rhai eraill, fel fi, yn dechrau sgwennu heb syniad yn y byd beth fydd yn digwydd yn y llyfr. Peidiwch â phoeni am bethau felly … a mwynhewch!

Myrddin ap Dafydd, Mari George a Haf Llewelyn

Rhai o awduron Dros y Môr a’r MynyddoeddStraeon Merched Dewr y Celtiaid (Gwasg Gwalch)

O ble rydych chi’n cael eich syniadau?

Haf: Pob mathau o lefydd. Weithiau mi wna i glywed sgwrs rhywun a meddwl, wel dyna ddiddorol, neu glywed hanes arbennig. Hefyd dwi’n ddarllenydd brwd ac yn cael llawer o syniadau rhwng cloriau.

Myrddin: Gwrando ar bobl a darllen straeon hanes. 

Mari: Profiadau personol a darllen llyfrau.

Hoff lyfr o’ch plentyndod? 

Haf: Pwt a Moi.

Myrddin: Trioleg Twm Siôn Cati gan T. Llew Jones.

Mari: The Lion, the Witch and the Wardrobe gan C. S. Lewis.

Y superpower fyddech chi’n ei ddewis?

Mari: Gallu creu mwy o amser.

Hoff air? 

Haf: Heulwen. 

Oes gennych chi gyngor i rywun sy’n trio ysgrifennu?

Mari: Darllenwch. A daliwch ati, hyd yn oed os ydych yn meddwl nad yw eich gwaith yn ddigon da. Cymerwch unrhyw feirniadaeth fel ysgogiad i wella. 

Myrddin: Sgwennu unwaith ac yna ailsgwennu’r cyfan eto. 

Haf: Dos amdani. Mae’n syniad da rhoi cynnig ar gystadlu – mae’r Urdd a’r Ffermwyr Ifanc yn cynnal eisteddfodau sy’n gyfle gwych i gychwyn ysgrifennu a chael ymateb beirniaid. Mae cystadleuaeth fel yma yn help mawr oherwydd fe gei di feirniadaeth heb i neb wybod mai ti sydd wedi ysgrifennu. 

Caiff enillwyr eu cyhoeddi ddydd Iau, 1 Mehefin ar faes Eisteddfod yr Urdd, Sir Gaerfyrddin.

Mae holl gyfrolau’r rhestr fer ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH