Luned Bengoch – Elizabeth Watkin-Jones
Dyma ddechrau yn y dechrau efo llyfr i blant. Mi ddarllenais i hon drosodd a throsodd pan o’n i’n blentyn – llyfr llawn antur, efo merch gwalltgoch yn brif gymeriad.
tu ôl i’r awyr – Megan Angharad Hunter
Dyma’r llyfr dwi’n pitïo nad oedd o gen i i’w ddarllen pan o’n i’n fy arddegau. Mae o’n crisialu’r profiad o ddod i brifiant mewn ardal wledig, yn oes y cyfryngau digidol mewn ffordd dreiddgar a thynner.
Wele’n Gwawrio – Angharad Tomos
Dyma nofel ddarllenais i’n lled ddiweddar, ond uniaethu’n gryf efo hi – eto falle fel dynes ifanc yn byw mewn ardal wledig. Mae hi’n mynd i lefydd annisgwyl a swreal, a dwtch yn wyllt. Dwi’m yn meddwl mod i wedi darllen dim byd tebyg byth wedyn.
Y Llofrudd iaith – Gwyneth Lewis
Mae hon eto yn eithaf unigryw. Dyma nofel dditectif ar ffurf barddoniaeth. Mi wnaeth y gwaith yma ail-ddiffinio i mi be allai barddoniaeth ei fod pan ddarllenais i’r llyfr am y tro cyntaf.
Ymbapuroli – Angharad Price
Allwn i ddim peidio cynnwys cyfrol o ysgrifau ar y rhestr. Mae Angharad Price yn un o feistri’r grefft, ac mae hwn yn gasgliad hyfryd o ysgrifau ar bynciau amrywiol, o’r personol i’r rhyngwladol.
Ar gael o’ch siop lyfrau leol.
Mae Grug Muse yn fardd ac ysgrifwr o Ddyffryn Nantlle. Mae’n olygydd gyda Cyhoeddiadau’r Stamp, ac yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n un o olygyddion y gyfrol Welsh (Plural) sydd newydd gael ei chyhoeddi gan Repeater Books, ac fe gyhoeddwyd cyfrol o’i barddoniaeth, merch y llyn y llynedd.