Cartref digidol diwylliant Cymru.

DIWRNOD FFILM WCRAIN / UKRAINIAN FILM EVENT

No Categories Found

Yn cefnogi apêl dyngarol Red Cross Prydeinig yn yr Wcrain

#maesinemâuDUyncefnogiWcrain

Come and see, hear and feel Ukrainian cinema with real heart and soul and support the humanitarian cause.



EARTH (PG)

Alexander Dovzhenko, 1930, 75m


gyda trac sain byw wedi’i gyfansoddi a pherfformio gan RSeiliog


Sul 27ain Mawrth 2.00pm £10 / £5.50

Heb os, EARTH gan Alexander Dovzhenko yw un o’r silents gorau a wnaed erioed ac yn binacl ar sinema o’r Wcrain.

Yn wreiddiol, perfformiodd Robin Edwards sgôr electronig fyw ar gyfer y clasur hwn fel rhan o’n Gŵyl Psylence ni nôl yn 2017 a rydym yn falch cyhoeddi ei fod yn ôl yn arbennig ar gyfer ein digwyddiad codi arian apêl dyngarol yn Wcrain. Peidwch a colli’r cyfle yma.

Mae defnydd Robin o gerddoriaeth electronig yn berffaith ar gyfer ffilm sy’n dangos sut mae dynoliaeth yn cael ei newid gan dechnoleg newydd. Pan berfformiodd Robin ei waith am y tro cyntaf yn 2017 roedd y cysylltiad emosiynol yn aruthrol, roedd yn amlwg wedi byw gyda’r ffilm hon ers misoedd ac roedd ei sgôr mor unol â gweledigaeth ac athroniaeth Dovzheenko nes iddo fynd y tu hwnt i unrhyw syniad o ‘gimmick’ neu ail-ddyfeisio neu cyfeilio arferol – mi oedd y ffilm ‘yn fyw’. Roedd y darganfyddiad y gall ffilm mor hen fod mor ffres a phwerus yn arbennig.

Yn y ffilm hon dangosir bywyd gwerinol Wcrain i ni, yn ei holl gyfoeth yn newid o amaethyddiaeth wledig i oes ‘collectivization’ Stalin wrth i bobl yr Wcrain ddysgu “canu caneuon newydd ar gyfer bywyd newydd” gyda dyfodiad yr oes yn cael ei gynrychioli ar y sgrin gan dractor. Wedi’i chynhyrchu cyn newyn yr Holodomor, a’r gormes gwleidyddol ofnadwy a’r alltudio dan Stalin mae’r ffilm yn bodoli fel mawlgan hynod i gylch bywyd a marwolaeth, i rym natur, i’r Wcráin ac i’r bobl sy’ wedi eu rhwymo yn anorfod ag ef.

OLGA (15)
Elie Grappe, 2022, 85m

Sul 27ain Mawrth 5.30pm

Mae sinemâu’r DU wedi dod ynghyd i gefnogi’r Wcráin gyda chyfres o ddangosiadau elusennol o Olga, ffilm newydd am gymnastwraig ifanc o’r Wcrain sy’n cael ei hyfforddi mewn gwlad estron. Yn nrama arobryn Elie Grappe, mae Olga, merch 15 mlwydd oed yn ceisio ffitio i mewn gyda’i thîm newydd yn ei chartref newydd. Ond wrth iddi baratoi ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop, mae pobl yr Wcrain yn llwyfannu chwyldro. Mae Olga yn cael ei dal yn bell o’i chartref,yn ddi-rym wrth i’w mam, sy’n newyddiadurwraig wynebu perygl wrth iddi herio trefn greulon. A all Olga gysoni ei gobeithion â’r hanes sy’n datblygu yn ei mamwlad?

RHANNWCH