Y gantores Lisa Pedrick yn rhannu ei theimladau mwyaf personol ar EP newydd.
Paratowch i daflu’r sodlau i un ochr a dawnsio’n wyllt i sengl diweddaraf Lisa Pedrick, Dihangfa Fwyn. Boed yn y gegin, ar eich gwyliau neu yn yr ardd, mae Dihangfa Fwyn yn gân sy’n mynd i godi calon, eich annog i ddawnsio a symud i’r curiad.
Hon yw’r trac diweddaraf, a’r olaf i’w rhyddhau fel sengl, o’r EP newydd sbon o’r un enw. Mae Numero Uno a Camddyfynnu wedi’n cynhesu ni’n barod ar gyfer yr haf, ac mae Dihangfa Fwyn fel ‘gwres sy’n gwneud lles’ wrth i ni gyd baratoi i fwynhau ychydig o seibiant ag amser gyda theulu a ffrindiau dros yr haf.
Wrth drafod ystyr y geiriau, a’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r gân, dywedodd Lisa; “Mae gan bawb rhywun, neu rhywbeth, yn eu bywydau sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n well, sy’n gallu torri’r wawr a rhoi gobaith i ni am ddiwrnod newydd.
“Boed yn ffrind, teulu, cydweithiwr neu bartner mae gallu troi at y dihangfa fwyn yna yn eich bywyd, i godi calon pan mae popeth yn edrych yn eitha’ tywyll, yn bwysig.
“Rwy’n ddiolchgar iawn am gael y fath berthynas yn fy mywyd. Efallai mai lleoliad neu gân sy’n gweithio fel dihangfa fwyn i eraill. Os yw’r gân yma’n gallu codi calon a chynhesu’r diwrnod i rhywun fe fyddai’n hapus iawn.”
Yn ogystal â Dihanga Fwyn fe fydd Numero Uno a Camddyfynnu, ill dau wedi eu chwarae’n rheolaidd ar Radio Cymru, hefyd yn ymddangos ar yr EP.
Does dim dadlau â’r ffaith bod Lisa yn defnyddio’i llais, a’i thalent cyfansoddi, i ymateb yn onest ac agored i ddigwyddadau mawr, a phersonol, bywyd. Dyna hefyd a geir yn y ddwy gân serch sydd wedi eu cynnwys ar yr EP, Hir Yw Pob Aros a Dal Yno Rhywle
Wrth resymegu pam ei bod am rannu profiad mor bersonol, dywedodd Lisa; “Roedd hi’n gyfnod eitha’ unig mewn ffordd. Dyw cael trafferth i feichiogi a mynd drwy triniaeth IVF ddim yn rhywbeth mae pobl yn ei drafod yn agored, sy’n siom mewn gwirionedd gan bod gymaint yn gorfod mynd trwy’r profiad.
Yn dilyn llawenydd genedigaeth eu plant dioddefodd Lisa o iselder ôl-enedigol. Mae Dal Yno Rhywle, fel Hir Yw Pob Aros, yn llawn emosiwn personol, amrwd.
Dywedodd Lisa; “Roedd y gân yn neges i fy nheulu ar y pryd mod i’n dal yno rhywle ac i beidio â rhoi’r gorau arnai. Rwy’n teimlo bod y gân yn berthnasol i unrhyw un sydd wedi dioddef o iselder.”
Ysgrifennodd Lisa’r gân gyda’i brawd, Aled Pedrick, yn ystod y cyfnod clo cyntaf nôl yn 2020.
Aeth Lisa ymlaen i ddweud; “Rwy’n siwr bod pawb yn cofio gorfod gwneud pob peth dros y ffôn a galwadau fideo yng nghyfnod cynnar Covid. Roedd Aled yn Llundain yn ystod y cyfnod yna ac fe aethon ni ati i gyfansoddi gyda’n gilydd dros FaceTime. “Dyna’r tro cynta’ i ni ysgrifennu gyda’n gilydd ond ry’n ni’n awyddus iawn i weithio ar mwy o ganeuon yn y dyfodol.”
O dynerwch Hir Yw Pob Aros, i’r dicter yn Camddyfynnu, mae’r EP yn llawn emosiwn gyda Lisa’n dweud y dweud yn ddi-flewyn ar dafod.