Cynhaliwyd digwyddiad digidol i ddathlu llwyddiant enillwyr yr Her Gyfieithu a Translation Challenge eleni, sef Grug Muse ac Eleoma Bodammer, ar 30 Medi, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu, yng nghwmni’r enillwyr, y beirniaid, Yr Athro Mererid Hopwood a’r Athro Karen Leeder, y bardd Zafer Şenocak, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Eluned Morgan AS, Elin Jones AS, Is-Ganghellor PCYDDS Yr Athro Medwin Hughes, Llywydd PEN Cymru Menna Elfyn, Yr Athro Tom Cheesman, Gosia Cabaj o Goethe-Institut, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth ar draws Ffiniau Alexandra Büchler a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, PCYDDS ar ran Cyfnewidfa Lên Cymru.
Trefnwyd y gystadleuaeth gan Gyfnewidfa Lên Cymru, Wales PEN Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, O’r Pedwar Gwynt, Poetry Wales a Goethe-Institut.
Darllen rhagor yma.