Cartref digidol diwylliant Cymru.

Dienw – Catrin Cheung

Llenyddiaeth

Dienw

Yn ei stafell mae hunanbortread. Paentiad o’r ysgol yn meddiannu’r canolbwynt. Llun mewn ffrâm go-iawn, caiff ei warchod dan wydr. Mae’n edrych fel campwaith i’r bachgen.

Cefndir glas – Prussian Blue – neu os rydym am fod yn wyddonol: Fe₄[Fe(CN)₆]₃ yw’r fformiwla gywir. Darganfyddwyd y lliw ar ddamwain mewn gweithdy ym Merlin. Roedd y gwyddonydd yn ceisio creu coch.

Mae gan liwiau eneidiau, hefyd.

Daeth i’r byd gyda gweledigaeth. Defnyddwyd y lliw gan Picasso. Tystiolaeth o iselder enaid. Hwn oedd awen Hokusai. Tystiolaeth o ysbrydoliaeth enaid. Darganfuwyd y lliw mewn siambrau nwy. Tystiolaeth o greulondeb enaid.

Ond ai dim ond cemegyn yw lliw? Pam bod trefn lliw ar gynfas yn peri dagrau; tanio ysbryd; torri calon?

Mewn oriel nid oes dydd heb ymwelydd yn sleifio am hances boced, i sychu cornel eu golwg.

Yn ôl at y darlun gwreiddiol.

Brwshys paent plentyn. Mae’r cyferbyniad yn drawiadol. O flaen cefndir glas, mae fâs lwyd. Yn y fâs lwyd, mae petalau llachar melyn a chraidd oren i flodau. Nid Cennin Pedr yw’r rhain. Blodau dienw. Blodau’r dychymyg. Blodau plentyn cyn iddo golli creadigrwydd.

 

***

Yr ‘80au. Mae ei chyfaill yn dioddef o AIDS. Does dim gwellhad. Does dim llawer o amser, rhagor.

Mae hi’n yfed trwy golled. Yn hunanddinistriol. Beth yw ystyr bywyd? Bregusrwydd.

Wedi galar daw galw i greu bywyd newydd. Ond, nid yw’n syml iddi hi. Mae hi’n caru menywod.

Doedd dim arian. Mewn cartref cyngor. Yn gadael ei thŷ at hoelion cymdeithas tu allan i’w drws. Ei char wedi llosgi. Nid yw’r cymdogion yn ei charu. A’i chrefydd yn ei datgan yn bechadur.

Hithau yn dianc dan ddaear. Daw chwaer yn gefnogaeth at chwaer. Mae’n gwybod am ddyn – anhysbys – sy’n fodlon helpu.

Woolworths. Mae’n llenwi ei basged gyda syrinj twrci ‘Dolig, a phrofion beichiogrwydd. Disgwyl tan ei hamser o’r mis. Nid yr amser yna **tabŵ**. Ond yr amser ofiwleiddio. Pan ddaw, mae’n gwneud yr alwad.

Dal bws at y gilfan, yn ôl y cytundeb. Arian parod yn ei phoced. Dyma bris yr hylif. Mae’r ddau yn cyfnewid. A hylif y dyn dienw, dal yn gynnes yn y pot jam.

Mewn brys mae hithau’n dychwelyd. Yn llenwi’r syrinj. A chwistrellu ei chroth gyda gobaith.

 

***

‘Nid hunan bortread yw hwn! Paid chwarae drygioni â fi!’

Mae’r athrawes yn ddynes lythrennol.

Daw’r bachgen at y giatiau gyda’i gelf. Fflach o las a melyn yn ei ddwylo. Oddi tan, mae nodyn gan athrawes.

‘Ond athrawes – mae fy machgen yn gywir. Hwn yw hanes ei genhedliad. Doedd dim dyn ar y sîn. Dim ond gwenyn gyda phaill.
Gad iddo fod yn flodyn wir Dduw!’

**

 

Blodeuwedd

RHANNWCH