Dewch i ganu gyda Dic Penderyn, un o’r dynion dewraf welodd Merthyr Tudful erioed!
Gallwch gyd-ganu drwy ddefnyddio’r geiriau YMA.
Mae’r gân yma yn rhan o sioe ‘Dic Penderyn – Arwr y Bobl Gyffredin!’ gan gwmni Mewn Cymeriad, ac sydd ar gael i ymweld ag ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru. Mae’r fideo yn rhan o gynllun Cydweithio Creadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru, rhwng Mewn Cymeriad ac Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd y Grug.