Cartref digidol diwylliant Cymru.

Dianc i’r tywydd braf gyda Mali Hâf

Cerddoriaeth

Dydd Miwsig Cymru: mae Mali Hâf yn edrych ymaen at gael camu ar lwyfan unwaith eto ar ôl y cyfyngiadau

Mae sengl gynta’r gantores Mali Hâf yn gân bop fachog sy’n codi calon, a hynny mewn dyddiau digon dyrys.

Fe gafodd ‘Ffreshni’ ei rhyddhau yn ddiweddar, ac mae hi’n diwn hyfryd o hamddennol sy’n swnio’n gyfoes a… ffresh!

“Mae hi’n gân ti’n rili gallu dianc gyda hi, am wn i,” meddai’r gantores 23 oed o Gaerdydd.

“Mae hi’n gân eithaf Hafaidd – wnes i sgwennu hi yn yr Haf, ond ma’ fe’n dod mas nawr.

“Ac i fod yn onest, roeddwn i bach fel: ‘Www, dyw e’ ddim yn mynd gyda’r tymor’.

“Ond sdim ots, rili, achos mae pawb angen kind of dianc ar y foment.

“Ryden ni wedi colli allan ar yr Haf, felly dw i wedi kind of rhoi cân iddyn nhw i wneud lan am hynny!”

Ddyla neb synnu fod Mali Hâf yn gallu cynhyrchu caneuon pop catchy – mae hi wedi astudio’r grefft, cydweithio gyda cherddor profiadol, ac wedi cyrraedd ffeinal prif gystadleuaeth cyfansoddi’r Cymry.

Y llynedd roedd hi i’w gweld, dan yr enw ‘Mali Melyn’, yn canu ei chân ‘Aros Funud’ ar Cân i Gymru 2019.

A chyn hynny bu’n astudio Cerddoriaeth Bop yng Ngholeg Cerdd Leeds.

DARLLEN MWY

RHANNWCH