Cartref digidol diwylliant Cymru.

#DEWIS: Fadhili Maghiya

No Categories Found

Ewch i fwynhau DEWIS Fadhili isod nawr!

Fadhili Maghiya yw ein gwestai DEWIS diweddaraf!

Fadhili yw Prif Weithredwr Sub-Sahara Advisory Panel, rhwydwaith o grwpiau diaspora Affricanaidd yng Nghymru, sydd yn gweithio ar bolisiau i gynnal datblygiadau a lleihau tlodi yn Affrica. Yn ogystal, Fadhili yw sylfaenydd a churadur Watch-Africa, yr ŵyl ffilmiau Cymru Affricanaidd cyntaf.

Meddai Fadhili:

“Rydw i’n caru mynd ar goll ar AM. Mae pori drwy ystod eang o waith creadigol o ar draws Cymru a thu hwnt yn hwyl ac yn addysgiadol. Mae’r wefan yn ased enfawr ar gyfer y sector diwylliannol a chreadigol yng Nghymru ac mae’n fy helpu i ac eraill i wybod beth sydd yn digwydd yng Nghymru. Mae yna lwyth o waith cyffrous yna sydd yn fy ysbrydoli, addysgu ac yn fy helpu i ddatblygu fy hun yn greadigol. Mae fel mynd ar goll yn strydoedd cul Zansibar yn chwilio am rhywle i fwyta.”

DEWIS yw’r nodwedd sydd yn gwahodd gwestai gwahanol i ddewis ei hoff gynnwys ar AM pob mis. Mae rhai o’n gwesteion blaenorol yn cynnwys Nia Morais, Dead Method a Michael Sheen. Meddai Dylan Huw am DEWIS, yng nghylchgrawn Barn: “Mae’n cynnig mewnwelediad gwerthfawr i safbwyntiau creadigol rhai o’n ffigyrau diwylliannol mwyaf dylanwadol”.

RHANNWCH