Yr Eneth Gadd Ei Gwrthod gan Gwen Parrott
Gwasg y Bwthyn, £9.95
Dwi wrth fy modd â gwaith Gwen Parrott ers i mi gwrdd gyntaf â Dela Owens, y ditectif anarferol â’i gwreiddiau ym mherfeddion gwledig Sir Benfro. Nid un o nofelau Dela yw hon, ond mae’r un nodweddion i ysgrifennu Gwen yma fel o’r blaen – deallusrwydd, cyfrwystra, plot rhagorol, ysgrifennu treiddgar a chymeriadau sy’n aros yn y cof.
Paid  Bod Ofn gan Non Parry
Y Lolfa, £9.99
Fydda i ddim yn darllen hunangofiannau’n aml iawn, ond dwi’n ffan o Eden, ac wedi cael fy mhroblemau iechyd meddwl fy hun, felly dyma roi cynnig ar hwn. Diolch byth i mi fentro. Chwerthin, llefain, cydymddwyn, rhyfeddu. Dwi’n ffan hyd yn oed yn fwy o Non Parry nawr.
Y Stori Orau gan Lleucu Roberts
Y Lolfa, £8.99
All neb amau gorchest Lleucu Roberts yn ennill y ‘Dwbl’ o ran gwobrau rhyddiaith yr Eisteddfod Amgen eleni; i mi, hon oedd y gyfrol wnaeth gyffwrdd yn fy nghalon. Collais fy mam yn ddiweddar, ac mae’r stori ymholgar, dreiddgar hon am berthynas merch a’i mam wedi byw gyda mi. Sut all cymaint o ddoethineb fyw rhwng cyn lleied o dudalennau, dywedwch?
Hannah-Jane gan Lleucu Roberts
Y Lolfa, £8.99
Ailymddangosiad Lleucu Roberts ar fy rhestr. Slow burner o nofel yw hon – pan ddarllenais hi gyntaf ro’n i’n rhwystredig nad oedd hi’n hirach, yn plymio mwy i fywydau’r merched amryliw sy’n bileri’r stori hon am golli cof, colli hunaniaeth, colli hunan. Ond mae’r stori a’r cymeriadau’n dal i’m hambygio, fisoedd wedi gorffen ei darllen. Dyna arwydd o gyfrol ragorol, os bu un erioed.
Yn Fyw yn y Cof gan John Roberts
Y Lolfa, £8.99
Bu ond y dim i John Roberts ddwyn un o wobrau Lleucu gyda’r nofel hon, sydd hefyd yn ymwneud â cholli cof. Oedd beirniaid y Steddfod yn gywir? Rwyf am neilltuo barn, ond dyma nofel soffistigedig, gythryblus, sydd wir yn aflonyddu. Bydd clybiau darllen Cymru wrth eu gwaith am flynyddoedd yn dadelfennu hon – yn enwedig wrth ei chymharu â Hannah-Jane.