Sian Angharad

Enw: Sïan Angharad Jones, ond pawb yn nabod fi fel Anj neud Angharad!
Ble cawsoch chi eich geni a’ch magu? Geni yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor ac fy’n magu yn Moelfre, Ynys Môn
Pa un oedd eich hoff lyfr yn blentyn? Roedd Can y Morfilod yn un o’r ffefrynnau. Oeddwn i wrth fy modd efo llyfrau o’r cyfres Goosebumps ac yn aml darllen comics Dandy ac Beano.
Pryd ddechreuoch chi feddwl am fod yn ddarlunydd? Dwi ‘di darlunio fel hobi ers bod yn ysgol ond dechreuais darlunio caniau cwrw i Fragdy Mona ar Ynys Môn yn 2018, ac agor siop Etsy yn ganol Covid yn gwerthu prints.
Oes yna themâu/pynciau arbennig sy’n apelio atoch? Dwi’n lyfio darlunio lluniau mynyddoedd Eryri ar yn iPad ond dwi’n hefyd caru dysgu steil llythrennu gwahanol.
Beth yw’r peth gorau / gwaethaf am fod yn ddarlunydd? Y peth gorau ydi cael gweld fy ngwaith celf mewn llyfr, ar y wal, teledu… y peth gwaethaf ydi pan dwi’n cael ‘chydig o ‘artist block’ ac yn stryglo cael ysbrydoliaeth!
Oes gennych chi gyngor i rywun sy’n trio darlunio? Peidio rhoi gormod o pwysa ar chi ’ch hun – just enjoiwch y broses. Dwi trio cadw sketchbook arna i lle bynnag dwi mynd, jyst rhag ofn dwisho darlunio.
Sian Angharad yw darlunydd Ysgol Arswyd gan Catrin Angharad Jones (Y Lolfa).
Detholwyd rhestr fer Gwobr Clawr Llyfr Plant y Flwyddyn 2025 gan ein Panel Pobl Ifanc.
Bydd dylunydd/darlunydd y clawr buddugol ym mhob categori yn ennill neu rannu gwobr ariannol o £500.
Cyhoeddir yr enillwyr dydd Gwener, 26 Medi 2025.
Holl gyfrolau’r rhestr fer ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.
Lleucu Gwenllian

Enw: Lleucu Gwenllian
Ble cawsoch chi eich geni a’ch magu? Blaenau Ffestiniog
Pa un oedd eich hoff lyfr yn blentyn? Mae’n amhosib dewis! Roeddwn i’n caru cyfresi Harry Potter, Percy Jackson ac Inkheart a’n hoff iawn o Hi yw fy Ffrind, Chwaer Blodeuwedd, Drwy’r Darlun, Eira Mân Eira Mawr…
Pryd ddechreuoch chi feddwl am fod yn ddarlunydd? Roeddwn i eisiau bod yn artist erioed, ond roedd cyfnodau pan wnes i golli hyder yn ymarferoldeb celf fel gyrfa. Mae’n siwr mod i wedi dechrau meddwl am ddarlunio yn Coleg Meirion Dwyfor, a wedyn darlunio llyfrau plant yn benodol yn y brifysgol.
Oes yna themâu/pynciau arbennig sy’n apelio atoch? Straeon am deulu a chyfeillgarwch, natur, hud a lledrith, a chwedloniaeth.
Beth yw’r peth gorau / gwaethaf am fod yn ddarlunydd? Y peth gorau ydi gallu ymgolli mewn gwahanol fyd am oriau bob dydd, a chael y bleser o fod yn un o’r bobl cyntaf i ddarllen gwaith awdur. Gall darlunio fod yn yrfa reit unig, a gall hyn fod yn anodd weithiau, ond ar adegau eraill mae’r llonyddwch hwn yn fendith.
Oes gennych chi gyngor i rywun sy’n trio darlunio? Mae hyn ‘chydig bach yn od, ond dwi’n meddwl ei fod yn rili pwysig i drio gwneud ryw fath o ymarfer corff – dydi plygu dros ddesg am oriau bob dydd ddim yn dda i’ch asgwrn cefn a buan iawn mae’n dechrau brifo!
Lleucu Gwenllian yw awdur a darlunydd Gwen ac Arianrhod (Gwasg Carreg Gwalch).
Detholwyd rhestr fer Gwobr Clawr Llyfr Plant y Flwyddyn 2025 gan ein Panel Pobl Ifanc.
Bydd dylunydd/darlunydd y clawr buddugol ym mhob categori yn ennill neu rannu gwobr ariannol o £500.
Cyhoeddir yr enillwyr dydd Gwener, 26 Medi 2025.
Holl gyfrolau’r rhestr fer ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.
Huw Aaron

Enw: Huw Aaron
Ble cawsoch chi eich geni a’ch magu? Yr Uplands, Abertawe
Pa un oedd eich hoff lyfr yn blentyn? Yng Ngwlad y Pethau Gwyllt, Redwall, A Wizard of Earthsea, Lord of the Rings – unrhyw beth mewn byd ffantasïol rhyfeddol.
Pryd ddechreuoch chi feddwl am ddod yn awdur a darlunydd? Ro’n i’n ysgrifennu straeon a gwneud lluniau hyd pan o’n i’n blentyn, ond byth meddwl bod e’n rhywbeth baswn i’n gallu neud fel job go iawn. Ond wedi i mi weithio mewn job ‘go iawn’ oedd yn ddiflas am dipyn, dyma fi’n dechrau chwilio am bethe mwy diddorol i wneud – fel creu lluniau a straeon!
O ble rydych chi’n cael eich syniadau? Gan Xrrjf, y coblyn sy’n byw yn nrôr gwaelod fy nesg.
Oes yna themâu/pynciau arbennig sy’n apelio atoch? Dim yn benodol – stori dda sy’n bwysig, ac mae’r pwnc neu thema yn dod wedyn. Ond mi ydw i yn hoffi straeon gyda chymysgiad da o ryfeddu, hiwmor a chalon.
Beth yw’r peth gorau / gwaethaf am fod yn awdur? Peth gorau: chi’n troi syniad anweledig sydd ond yn bodoli tu fewn i’ch brên weird chi mewn i BETH go iawn. Sydd, gobeithio, yn neud pobl eraill yn hapus. Peth gwaethaf: dyfalbarhau pan mae’ch hyder yn y syniad cychwynnol yn pylu, sy’n digwydd i fi tua hanner ffordd trwy bob un prosiect.
Oes gennych chi gyngor i rywun sy’n trio ysgrifennu neu ddarlunio? Hanfod stori yw creu problem i’ch cymeriad, ac wedyn ei ddatrys. Y mwyaf yw’r broblem, y gorau yw’r stori. O fwlis yn yr ysgol, i alien mawr porffor sydd eisiau dinistrio hanner y bydysawd – gweld y broblem o safbwynt eich cymeriad sy’n bwysig.
Huw Aaron yw awdur a darlunydd Nos Da, Blob (Y Lolfa).
Detholwyd rhestr fer Clawr Llyfr Plant y Flwyddyn 2025 gan ein Panel Pobl Ifanc.
Bydd dylunydd/darlunydd y clawr buddugol ym mhob categori yn ennill neu rannu gwobr ariannol o £500.
Cyhoeddir yr enillwyr dydd Gwener, 26 Medi 2025.
Holl gyfrolau’r rhestr fer ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.
Dewch i adnabod darlunwyr rhestr fer Saesneg hefyd.
Colours of Home (Graffeg)
- Darluniad y clawr: Miriam Latimer
- Awdur: Miriam Latimer
The Street Food Festival (Atebol)
- Darluniad y clawr: Valériane Leblond
- Dyluniad y clawr: Tanwen Haf, Whitefire Designs
- Awdur: Gail Sequeira
Fishfolk (Firefly Press)
- Darluniad y clawr: Hannah Doyle
- Awdur: Steven Quincey-Jones