Cartref digidol diwylliant Cymru.

Derw – Tafwyl 2021

Cerddoriaeth

Sefydlwyd Derw gan ddeuawd mam a mab, y gitarydd Dafydd Dabson a’r delynores Anna Georgina, yn dilyn eu llwyddiant wrth gyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru yn 2018, y tro cyntaf iddynt sgwennu efo’i gilydd. Elin Fouladi, y gantores Gymraeg/Iraniaidd sy’n arwain Derw, gyda cherddorion o fandiau Cymraeg fel Zervas and Pepper, Afrocluster a Codewalkers yn rhan o recordio ei EP gyntaf ‘Yr Unig Rai Sy‘n Cofio’, a ddaeth allan yn mis Mawrth.

Mae’r band wedi ei ddylanwadu gan fandiau pop siambr fel ‘The National ac Elbow’ ac mae ganddynt gysylltiad cryf gyda’r gorffennol a hanes eu teulu, yn cymeryd eu henw gan dad Anna – Derwas. Mae’r teulu yn llawn straeon cyfareddol, a bwriad ’Yr Unig Rhai Sy’n Cofio’ yw sicrhau bod nhw’n aros mewn cof.

RHANNWCH