Mae Lŵp a PYST yn hynod gyffrous i gyhoeddi yr ail fideo o’u Cronfa Fideos Cerddorol – Marwolaeth gan Dead Method, wedi’i animeiddio gan Molly Allen.
Mae Dead Method yn seren bop i’r oes newydd. Y mae ei gerddoriaeth yn plymio’n ddwfn i ddyfnderoedd pop electro amgen gydag ymyl dywyll, wrth iddo archwilio bywyd ei hun – o gariad a cholled i wleidyddiaeth, rhyw a mwy gyda gonestrwydd sobreiddiol a dawn farddonol.
“Cafodd y gân ei hysgrifennu ychydig fisoedd ar ôl cwblhau gweddill fy albym a gwasanaethodd fel darn olaf y pos” meddai Lloyd Best, neu Dead Method, am y trac.
Dyma’r fideo animeiddiedig cyntaf i Lŵp a PYST gyfrannu tuag at ac (o bosib) y fideo cerddorol animeiddiedig cyntaf yn y Gymraeg. Fe’i hanimeiddiwyd gan Molly Allen, artist o Gaerdydd sy’n cyfuno cynlluniau lliw neon gydag esthetig D.I.Y. i greu delweddau beiddgar, seicedelig, wedi’u hysbrydoli gan bync sy’n archwilio themâu a mynegiant hunaniaeth queer.
Ynglŷn â’r prosiect, dywedodd Molly, “Roedd yn gymaint o bleser gweithio ar y prosiect hwn. Oherwydd bod Lloyd wedi dod ataf gyda disgrifiad mor glir a manwl o ba siâp yr oedd am i’r fideo ei gymryd, fe wnaeth i’r broses animeiddio deimlo mor organig; Roeddwn yn gallu canolbwyntio’n wirioneddol ar gyflawni ei weledigaeth wych yn gywir yn ogystal â chyfleu’r neges ingol y tu ôl i’r gân.”
Mae’r pâr yn amlwg yn dîm perffaith, “Esboniais fy nghysyniad i Molly ac roedd hi’n gallu creu fersiwn animeiddiedig hardd o’r weledigaeth y tu mewn i fy meddwl” meddai Lloyd, “y canlyniad yw bod popeth roeddwn i eisiau ei fynegi wedi’i ddal trwy lens artistig Molly. Roeddwn i eisiau creu cynrychiolaeth o alar a sut mai, yn aml, galar yw’r holl gariad na chawsoch chi ei fynegi pan oedden nhw yma.”