Mae Firefly, sy’n gyhoeddwr plant a phobl ifanc annibynnol â’u pencadlys yng Nghaerdydd ac sy’n dathlu eu degfed pen-blwydd eleni, hefyd yn wedi diolch yn fawr i feirniaid y CILIP Carnegie a ddewisodd The Blue Book of Nebo fel enillydd Gwobr 2023.
‘Mae hon yn nofel hardd a phwerus,’ meddai’r cyhoeddwr Penny Thomas. ‘Stori dwyllodrus o syml am ddyfodol dystopaidd, mae’n rhoi saib i’r darllenydd i feddwl, wedi’i thrwytho â chynhesrwydd, addfwynder, a ffyrdd newydd o edrych ar ein byd a’r ffyrdd yr ydym yn byw ynddo.
‘Mae’n wirioneddol wych mai nofel wedi’i haddasu o’r Gymraeg gan yr awdur, yw’r llyfr cyntaf mewn cyfieithiad i ennill y Wobr. Rwy’n gobeithio y bydd llawer mwy.
‘Hoffem ddiolch i feirniaid y Carnegie, a phob aelod o CILP a wnaeth enwebu a hyrwyddo’r gyfrol fechan hon gan gyhoeddwr annibynnol o Gymru. Maen nhw’n gwneud gwaith ardderchog a phwysig dros ddarllenwyr ifanc, ac i lenyddiaeth plant a phobl ifanc. Hoffem ddiolch hefyd i Gyngor Llyfrau Cymru am ei gefnogaeth i’r teitl hwn ac i lenyddiaeth o Gymru yn y ddwy iaith, heb hynny ni fyddai Firefly wedi gallu cyhoeddi’r llyfr hwn.
‘Yn bennaf oll hoffem longyfarch Manon ar ei nofel delynegol a theimladwy iawn a fydd, heb os, yn glasur modern, a diolch iddi am ddewis Firefly i gyhoeddi’r addasiad Saesneg hwn o Llyfr Glas Nebo. Rydym mor hapus i fod yn rhan o’r daith hon.’
Gwyliwch Manon yn darllen o ‘The Blue Book of Nebo’ yma
Canmoliaeth i The Blue Book of Nebo:
‘Nofel syfrdanol – stori dyner, drasig, ôl-apocalyptaidd, wedi’i hadrodd gyda symlrwydd a grym mawr.’ Imogen Russell Williams, The Guardian
‘Mewn gair: Bendigedig. Gweledigaeth, sylwebaeth ac ysgrifennu hyfryd. Stori yn llawn rhybuddion a gobaith sobr.’ Nicola Davies
‘Darllen addfwyn, ond pwerus am sut rydyn ni’n byw a’r hyn rydyn ni’n talu sylw iddo.’ The Irish Times