Bydd Dafydd Iwan, y Cerddor Chwedlonol Cymreig, ymgyrchydd, gwleidydd, perchennog label recordiau a phensaer, a’r un sy’n gysylltiedig gyda phopeth positif yng Nghymru nawr, ac sydd wedi dwyn calonnau cefnogwyr tîm pêl droed Cymru, yn perfformio yn Theatr Soar Merthyr mewn dau gyngerdd nos Wener Medi’r 30ain a nos Sadwrn Hydref 1af 2022.
Bydd tocynnau ar werth ddydd Mercher Gorffennaf 20fed am ganol dydd o Theatr Soar, rhif ffon 01685 722176/ www.theatrsoar.cymru neu ar-lein yma
Ddechrau Mehefin, perfformiodd Dafydd ei anthem eiconig Yma o Hyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yn wlyb at ei groen, a dagrau balchder yn gymysg gyda’r glaw o flaen y Wal Goch, gyda Gareth Bale a’i dim yn lleisiau cefndir wrth i Gymru ennill ei lle yng nghwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd.
Mae atgyfodiad Yma o Hyd, anthem Dafydd Iwan am Gymry a Chymru wedi ail-rymuso’r genedl. Dyw Dafydd ddim yn gallu credu clywed y Wal Goch yn bloeddio ‘Er gwaetha pawb a phopeth, Ry’n ni yma o hyd.’
“Pwy fase’n meddwl yr effaith y byddai Yma o Hyd yn ei gael 40 mlynedd ar ôl ei chyfansoddi, roeddwn i ond yn meddwl am fy nghyngerdd nesaf. Cyfansoddais y gan a rhai eraill ar gyfer taith gydag Ar Log.
Roedd wedi ei ysgrifennu yn fwriadol i godi’r to ar ddiwedd y noson yn dilyn refferendwm trychinebus 1979. Trefnodd Ar Log y gan a chynhyrchu’r record, felly er fy mod i wedi cyfansoddi’r geiriau a’r gerddoriaeth, eu trefniant nhw sydd wedi cydio.”
Mae Dafydd Iwan yn credu bod y cefnogwyr a Chymdeithas Bel droed Cymru wedi creu rhywbeth unigryw i’w drysori :“ Byddai’n dda gweld cymaint o’r cefnogwyr a phosib yn y ddau gyngerdd ym Merthyr a dathlu y llwyddiant diweddar ac Yma O Hyd yn cyrraedd rhif un. Mae cyngherddau yn y Cymoedd bob amser yn arbennig, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ffrindiau hen a newydd yn Theatr Soar, fy nghyngerdd cyntaf ym Merthyr ers sawl blwyddyn”.