Mae’r garfan wedi’i lleoli ar draws Cymru o’r Wyddgrug i Bontypridd, ac yn ysgrifennu mewn sawl iaith fel Cymraeg, Saesneg a Bangla. Maent hefyd yn ysgrifennu mewn amrywiaeth o genres a ffurfiau megis ffantasi, arswyd, barddoniaeth, a nofelau graffig ac ar gyfer cynulleidfaoedd rhwng 4 a 18 oed. Mae’r 14 ohonyn nhw’n cynnig ystod eang o safbwyntiau, arddulliau a dulliau creadigol, ond mae pob un yn rhannu’r un brwdfrydedd dros syniadau gwreiddiol ac angerdd am ysbrydoli cynulleidfaoedd ifanc. Yn ystod y 12 mis nesaf, byddant yn ceisio cyflawni eu nodau unigol sy’n amrywio o gwblhau eu llawysgrif, i ddatblygu glasbrintiau ar gyfer gweithdai ysgol, i fachu asiant llenyddol a gweld eu gwaith yn cael ei gyhoeddi.
Jade E. Bradford
Awdur a chyfathrebwr yw Jade Bradford sydd ar hyn o bryd yn byw ar lannau y Barri, gyda dwy gath streipïog ac un dyn streipïog. Ganed Jade i un rhiant o Jamaica ac un rhiant Bajan a’i magu yn y Siroedd Cartref yn Lloegr. Treuliodd ddegawd yn nwyrain Llundain cyn symud i dde Cymru yn 2020. Mae gan Jade Radd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol ac mae ei gwaith creadigol wedi’i gyhoeddi yn Wasafiri ac wedi ymddangos mewn Photoworks “Festival in a Box” a sawl llwyfan arlein. Tu hwnt i’w gwaith ysgrifennu, mae Jade yn gweithio’n llawn amser mewn tai cymdeithasol. Mae hi’n angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol a chaniatáu i leisiau ymylol gael y rhyddid i fyw bywydau cyffredin yn ei gwaith. Mae Jade yn ymroddedig i ysgrifennu ffuglen fer lenyddol ar gyfer pob oed, a sicrhau cynrychiolaeth briodol o ferched du mewn straeon. Ei huchelgais yw creu cymeriadau y byddai hi ei hun yn 15 oed wedi uniaethu â nhw. Cymerodd Jade ran yn rhaglen Emerging Writers Llenyddiaeth Cymru, a noddir gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies, yn 2021 a chwrs Books For All yn 2022.
Jessica Doyle
Mae Jess Doyle yn awdur ffuglen arswyd a ffantasi. Mae ei chyhoeddiadau mwyaf nodedig yn cynnwys y nofel M.I.C.H.A.E.L. a straeon arswydus yn The Third Corona Book of Horror Stories a Dark Lane Anthology VII. Mae Jess yn weithgar yn y gymuned arswyd arlein gyda chyhoeddiadau yn Ink and Bone Press, Coffin Bell, Molotov Cocktail, Horror Scribes, Zeroflash ac Idle Ink. Mae hi hefyd o bryd i’w gilydd yn arbrofi gyda barddoniaeth.
Taylor Edmonds
Bardd, awdur a hwylusydd creadigol o’r Barri yw Taylor Edmonds. Mae ei phamffled barddoniaeth gyntaf Back Teeth allan nawr gyda Broken Sleep Books. Taylor oedd Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2021-2022, gan archwilio’n greadigol achosion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae ei gwaith yn archwilio themâu o rinweddau benywaidd, hunaniaeth, cysylltiad, natur a phŵer. Mae hi’n angerddol dros gynyddu cyfleodd ac hygyrchedd ysgrifennu creadigol i gymunedau a hyrwyddo manteision cadarnhaol ysgrifennu er les unigolion.
Osian Grifford
Mae Osian yn ddarlunydd, yn awdur â diddordeb mewn themâu cymdeithasol, a hwylusydd gweithdai yn wreiddiol o Dregaron, Ceredigion. Mae ef wedi bod yn gweithio yn y celfyddydau ers astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cardiff Met, cyn cyflawni BA mewn Darlunio yn Cardiff School of Art & Design, ac yn byw yn ne Cymru ers hynny. Mae’r rhan helaeth o waith Osian yn delio gyda darlunio naratif – llyfrau plant a nofelau graffeg, sy’n amrywio mewn themâu o straeon gwerin lleol wedi’u ail-ddychmygu, Iechyd meddwl, cyfryngau Cymraeg, plant â brwydrau yn eu cartref, ffuglen wyddonol dystopaidd, a darluniau o ddigwyddiadau hanesyddol Cymreig.
Bethany Handley
Mae Bethany Handley (hi/ei) yn awdur ac yn actifydd anabledd sy’n byw ym Mhontypridd. Mae ei barddoniaeth wedi’i chyhoeddi yn POETRY, Poetry Wales a gan y Poetry Foundation a’r Sefydliad Materion Cymreig, ymhlith cyhoeddiadau eraill. Roedd Bethany yn un o’r awduron ar Gynllun Unheard Voices Theatr y Sherman ac yn ddiweddar datblygodd encil ysgrifennu ar gyfer awduron ifanc Cymreig Byddar ac Anabl gyda’r nofelydd Megan Angharad Hunter, diolch i gomisiwn derbynodd gan Llenyddiaeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae gwaith Bethany fel arfer yn archwilio ablaeth, anhygyrchedd a’i pherthynas â natur fel menyw anabl
Sioned Erin Hughes
Mae Erin yn byw yng Ngheidio, Boduan, gyda’i chariad, Dafydd, a’i chi bach, Eldra. Mae ei diddordebau yn cynnwys sgwennu, darllen, cerdded, mynd i’r môr a choginio, ac mae’n gwneud yn siŵr ei bod wedi’i hamgylchynu gan anifeiliaid bob dydd. Erin oedd curadur a golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa), a ddaeth yn fuddugol yng nghategori Plant a Phobl Ifanc Tir na n-Og yn ôl yn 2020. Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf i blant yn ystod y Clo Mawr yr un flwyddyn, sef Y Goeden Hud (Gwasg Carreg Gwalch). Daeth yn fuddugol am Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tregaron yn 2022 gyda’i chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom (Y Lolfa). Mae hi’n swyddog marchnata i’r Lolfa dros gyfnod mamolaeth, ac yn gweithio ar brosiectau gyda Llenyddiaeth Cymru a’r Theatr Genedlaethol hefyd. Eleni, mae hi wedi ymgymryd â her i sgwennu darn creadigol bob diwrnod o’r flwyddyn, ac mae hi’n cyhoeddi’r cwbl ar gyfrif Instagram, myfyrdod365. Mae hi’n treulio cyfran helaeth o’i hamser yn codi ymwybyddiaeth am gyflwr niwrogyhyrol prin sydd arni, sef Myasthenia Gravis, ac yn rhannu ei phrofiad o oresgyn heriau iechyd meddwl ac ymgais i gymryd ei bywyd ei hun yn ôl yn 2021. Mae hi bellach ar ganol sefydlu elusen o’r enw Mesen, sydd yn rhoi sylw creiddiol ar sut i fynd i’r afael â hunanladdiad o ogwydd gwahanol.
Megan Angharad Hunter
Mae Megan Angharad Hunter yn awdur, sgriptiwr, a cherddor anabl o Benygroes, Dyffryn Nantlle ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd. Ers derbyn gradd BA mewn Cymraeg ac Athroniaeth yn 2022, mae hi wedi bod yn gweithio fel awdur llawn amser, yn ysgrifennu’n bennaf ar gyfer plant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Mae hi wedi ysgrifennu dwy nofel ar gyfer oedolion ifanc: enillodd tu ôl i’r awyr – ei nofel gyntaf –Brif Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2021, ac fe gyhoeddwyd Cat yn rhan o gyfres arobryn Y Pump. Enillodd hefyd Goron Eisteddfod yr Urdd 2020/21 ac mae ganddi brofiadau yn y diwydiant teledu. Yn ddiweddar, bu’n cyd-gydlynu cwrs ysgrifennu creadigol ar gyfer awduron a/Anabl efo’r bardd Bethany Handley ac ym mis Ionawr 2023, fe gafodd gyfle gan Literature Across Frontiers i deithio ar draws India; bu’n ymweld â gŵyl lenyddol Mathrubhumi ac ystod o brifysgolion efo chwech awdur Ewropeaidd arall. Yn bennaf, mae Megan yn ysgrifennu ar themâu iechyd meddwl, anabledd a rhywioldeb ac ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar ei nofel gyntaf i blant. Mae hi hefyd yn gwirfoddoli efo Llamau, elusen sy’n darparu llinell gymorth ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd. Yn ogystal ag ysgrifennu, mae Megan yn mwynhau chwarae ystod o offerynnau cerddorol, crwydro’r mynyddoedd efo’i chi, cyfansoddi caneuon, gwylio gormod o ffilmiau a phobi pwdinau sydd yn rhy uchelgeisiol o lawer.
Summer Keys
Mae Summer Keys yn awdur, bardd a nyrs iechyd meddwl ddwyieithog, niwroamrywiol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei nofel gyntaf i bobl ifanc a’i llyfr lluniau i blant, yn ogystal â chasgliad o farddoniaeth arbrofol. Mae’r olaf yn archwilio cysyniadau dadleoli, trawma, rhywioldeb a hunaniaeth dameidiog. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn ‘daearyddiaeth emosiynol’ lleoliad yn hytrach na barddoniaeth dopograffig draddodiadol. Mae Cymru’n nodwedd amlwg yn ei hysgrifennu.
Alice Knight
Mae Alice Knight, 31, yn awdur Cymreig traws o Rhisga. Wedi’i geni ar aelwyd llawn llyfrau, treuliodd ei phlentyndod yn brwydro yn erbyn dyslecsia er mwyn gallu eu darllen. Ers hynny, mae ganddi angerdd gydol oes dros lenyddiaeth wrth iddi gael ei swyno gan fydoedd awduron eraill a hiraethu cael creu rhai hi ei hun.
Leigh Anthony Manley
Mae Leigh Anthony Manley yn fardd newydd a fagwyd yng Nghwm Llynfi, ac mae ef bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae diddordeb Leigh mewn iaith yn dyddio’n ôl i Ysgol Gynradd Garth a fe barhaodd ei angerdd am greadigrwydd yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Gyfun Maesteg. Astudiodd Llenyddiaeth Saesneg a Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna aeth ymlaen i ddilyn gyrfa mewn cyllid. Yn 39 oed, cafodd Leigh ddiagnosis o gyflwr y galon difrifol a oedd yn bygwth bywyd. Er mwyn ymdopi, trodd Leigh yn reddfol at adrodd straeon a llenyddiaeth. Ers y trobwynt hwn, ac yn fwy diweddar, mae Leigh wedi rhannu ei gerddi gyda chyhoeddwyr, ac mae ei waith wedi ymddangos yn Poetry Wales, The Seventh Quarry, Nawr, yn ogystal ag amrywiaeth o flodeugerddi. Cyrhaeddodd rhestr fer Gwobr Creative Word Disability Arts Cymru yn 2022.
Rhiannon Oliver
Mae Rhiannon Oliver yn actores, bardd, ac arweinydd gweithdai. Hyfforddodd fel actores yn RADA ac mae hi wedi gweithio gyda Shakespeare’s Globe, National Theatre of Wales, Theatre Royal Bath, Manchester Royal Exchange, ac mewn llawer o theatrau eraill yn y DU a thramor. Mae hi hefyd wedi ymddangos ar y BBC a Sky TV.
Stacey Taylor
Awdur o Gaerdydd yw Stacey Taylor. Mae ganddi MA mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ac mae’n mwynhau darllen ac ysgrifennu ystod eang o genres – o ramant i drosedd. Yn ddiweddar cafodd ei henwi ar restr hir Gwobr Penguin Awduron Heb eu Darganfod Michael Joseph am ffilm drosedd y mae hi wedi’i hysgrifennu. Mae hi wrth bodd yn teithio ac mae hi wedi llwyddo i wireddu ei breuddwyd o deithio ar hyd Route 66, taith a roddodd sawl syniad iddi am straeon. Mae hi’n hoff iawn o ffuglen plant ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar nofel i oedolion ifanc.
Sheik Rana
Mae Sheik Rana yn fardd a cherddor gafodd ei eni ym Mangladesh, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Dechreuodd Sheik ei yrfa ysgrifennu yn 1997. Ar y dechrau, roedd ei ganeuon yn aml yn ymwneud â natur a chariad. Yn raddol maent wedi datblygu i gwmpasu ei feddyliau athronyddol ar eironi bywyd, gwleidyddiaeth, gwladgarwch, a’r cysyniad o famwlad. Mae ei ddiddordeb mewn ysgrifennu yn pontio sawl genre megis barddoniaeth, rhyddiaith, cyfieithu creadigol, teithio, dyddiaduron trefol, a chwedlau sydd i gyd yn ymddangos yn ei naw lyfr cyntaf, pob un wedi’i ysgrifennu yn iaith Bangla a’u cyhoeddi ym Mangladesh.
Hammad Rind
Awdur a chyfieithydd Cymreig-Pacistanaidd yw Hammad Rind. Roedd ei nofel gyntaf Four Dervishes (Seren Books, 2021), dychan wedi’i seilio’n fras ar dastan gan y bardd Indo-Persia Amir Khusro, ar restr hir Gwobr Cymdeithas Ffuglen Wyddonol Prydain. Ef yw cyfieithydd Wrdw o gasgliad barddoniaeth cyntaf Naveen Kishore, Knotted Grief. Cwblhaodd Hammad BA mewn llenyddiaeth a’r gyfraith Saesneg a Phersia ym Mhrifysgol Punjab, Lahore, ac MA mewn cynhyrchu ffilmiau ym Mhrifysgol Kingston, Llundain. Mae ei straeon, erthyglau ac adolygiadau o lyfrau wedi ymddangos mewn nifer o gylchgronau yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’n arwain gweithdai yn rheolaidd ar ysgrifennu creadigol, adrodd straeon a llenyddiaeth y Dwyrain. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei ail nofel.