Bydd y rhaglen yn cefnogi carfan o 14 o awduron drwy gynnig y canlynol:
Nawdd ariannol o £3,000
Nawdd ariannol ychwanegol ar gyfer teithio a thocynnau
6 gweithdy rhithiol hyd at ddwy awr yr un a fydd yn canolbwyntio ar y diwydiant cyhoeddi
4 Dosbarth Meistr ysgrifennu creadigol, dau ohonynt yn benwythnosau preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
4 Sesiwn Mentora un-wrth-un yn para 1-2 awr yr un
Cyfleoedd cyson i rannu gwaith creadigol ac adborth ymysg y garfan
Cyfleoedd rhwydweithio trwy gydol y flwyddyn
Rhaglen ôl-ofal bwrpasol ar ôl mis Mawrth 2024
“Mae Cynrychioli Cymru wedi llwyr trawsnewid fy mywyd.” – Amy Kitcher, Aelod Carfan 2022-2023
Bydd yr awduron llwyddiannus yn cael eu dewis gan banel annibynnol dwyieithog trwy broses asesu gofalus a manwl lle bydd ceisiadau a gwaith creadigol yn cael eu beirniadu ar sail ansawdd, potensial ac addasrwydd. Bydd y bedwaredd rownd yn cychwyn yn swyddogol ym mis Ebrill 2024 a bydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2025.
Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen ddwyieithog, ac mae Llenyddiaeth Cymru yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n ysgrifennu yn Gymraeg a/neu Saesneg. Mae croeso mawr i awduron sydd ond newydd ddechrau ysgrifennu yn y Gymraeg, yn ogystal ag awduron sy’n mwynhau arbrofi gyda’r ddwy iaith yn eu gwaith creadigol. Darperir gweithdai yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac fe gynigir cyfieithu ar y pryd lle bo angen. Gallwch ddysgu mwy am fformat dwyieithog y rhaglen yn ein hadran Cwestiynau Cyffredin.
Meddai Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru:
“Mae rhaglen Cynrychioli Cymru wedi newid Llenyddiaeth Cymru a llenyddiaeth yng Nghymru yn aruthrol ers 2019. Mae’r cynllun wedi cyfrannu at amrywiaeth o lwyddiannau, megis Hanan Issa yn dod yn Fardd Cenedlaethol Cymru, penodiad diweddar Nia Morais fel Bardd Plant Cymru 2023-25 , a phenodiad Alex Wharton yn Children’s Laureate Wales 2023-25, ymhlith amrywiaeth o gweithiau wedi’i cyhoeddi gyda llawer mwy i ddod.
Yn 2022 fe wnaethom ehangu’r cymhwystra i bawb sy’n nodi eu bod yn cael eu tangynrychioli yn y sector gan ganolbwyntio mwy ar yr amrywiaeth o brofiadau a hunaniaethau sy’n cydfodoli yng Nghymru, ac rwy’n falch y gallwn barhau â hyn ar gyfer y bedwaredd rownd. Gyda phob blwyddyn mae’r rhaglen yn cryfhau, ac edrychwn ymlaen at gyfoethogi a chefnogi cynrychiolaeth y Gymraeg ymhellach, gan ddarparu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg weithio a rhannu eu gwybodaeth gydag awduron eraill yng Nghymru.
Rydym yn ddiolchgar o gefnogaeth barhaus Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n galluogi’r rhaglen hon i barhau, ac yn bersonol, ni allaf aros i weld mwy o yrfaoedd awduron yn ffynnu a chreu sîn lenyddol sy’n cynrychioli Cymru yn wirioneddol dros y blynyddoedd nesaf.”
I ddarganfod mwy am waith Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb Llenyddiaeth Cymru, cyfeiriwch at Gynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru 2022-2025.
Wrth adlewyrchu ei phrofiad fel awdur ar raglen bresennol Cynrychioli Cymru, dywedodd Rhiannon Oliver:
“Mae rhaglen Cynrychioli Cymru yn wych ac eisoes yn newid sut rydw i’n gweld fy hun fel awdur. Mae bod yn ddysgwr Cymraeg a bod yn rhan o’r rhaglen yn help mawr i mi fagu hyder yn fy marddoniaeth a’r syniad y gallaf ddatblygu gyrfa fel awdur dwyieithog.”
Cewch glywed mwy am brofiadau awduron y llynedd drwy wylio’r fideo isod: