Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cynrychioli Cymru | Representing Wales 2025-26

Llenyddiaeth

Ymgeisiwch nawr ar gyfer pumed rownd Cynrychioli Cymru!

Dyma raglen ddwyieithog 12 mis o hyd sy’n darparu cyfleoedd i awduron sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector llenyddol. Eleni, rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n dod o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n dymuno ysgrifennu a chreu ar gyfer oedolion. Bydd y rhaglen yn cael ei rhedeg rhwng Ebrill 2025 – Mawrth 2026.

Yn ystod y flwyddyn, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi carfan o 14 o awduron drwy gynnig y canlynol:  

  • Ysgoloriaeth ariannol o £3,000  

  • Nawdd ariannol ar gyfer teithio a thocynnau  
  • Rhaglen hyfforddi ddwys ar grefft ac ar ddatblygiad gyrfa proffesiynol sy’n cynnwys awduron byd-enwog fel tiwtoriaid a siaradwyr gwadd gan gynnwys ystafelloedd ysgrifennu ar-lein a dosbarthiadau meistr, gydag un ohonynt yn benwythnos preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd 
  • Mentor personol  
  • Cyfleoedd cyson i rannu gwaith creadigol ac adborth ymysg y garfan  
  • Cyfleoedd rhwydweithio trwy gydol y flwyddyn, ar-lein a wyneb yn wyneb
  • Cefnogaeth bwrpasol gan Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys cyngor, cyfeirio a nodi cyfleoedd 
  • Rhaglen ôl-ofal bwrpasol 


Dyddiad cau: 12.00 pm hanner dydd, Dydd Iau 10 Hydref 2024.


Sesiynau Galw Heibio
Bydd staff Llenyddiaeth Cymru ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dwy sesiwn digidol anffurfiol rhwng 6.00 pm – 7.00 pm ar ddydd Iau 29 Awst a dydd Mawrth 10 Medi 2024. Cliciwch ar y dyddiadau i archebu eich tocyn am ddim drwy Eventbrite.

RHANNWCH