Cartref digidol diwylliant Cymru.

CYNGERDD LANSIO ORGAN SOAR | SOAR ORGAN LAUNCH CONCERT

Cymuned

Mae’r noson arbennig wedi cyrraedd. Mae Organ unigryw Theatr Soar wedi deffro. Yn dilyn taith hir adnewyddiad yr organ, mae’r amser wedi dod i ddathlu ein trysoMae’r noson arbennig wedi cyrraedd. Mae Organ unigryw Theatr Soar wedi deffro. Yn dilyn taith hir adnewyddiad yr organ, mae’r amser wedi dod i ddathlu ein tryso#donnaedwardsr cymunedol.

Byddwn yn dathlu trwy ddod ag unigolion sydd wedi ein cefnogi ar ein taith. Bydd Dr William Reynolds, sydd wedi gwneud gwaith ymchwil ac ymgynghori i ddatblygu’r cais a chefnogi oruwchwiliad y prosiect adnewyddu yn canu’r organ am y tro cyntaf. Bydd Rhys Meirion, wnaeth helpu codi proffil y prosiect a chodi dros £2000 tuag at yr adnewyddiad, yn canu i ni. Byddwn hefyd yn dathlu cyfraniad Nevill John, y dyn wnaeth dod a’r prosiect organ yn fyw gyda’i syniadau i ddathlu cerddorion Merthyr, trwy wrando ar ddarn ysgrifennwyd gan Neville, gan Côr Clarinet De Cymru a Debra Williams. Cawn ein diddanu hefyd gan aelodau o’n cymuned, Côr Con Voce a Delyth a Bethan McLean, sydd wedi gweld y prosiect yn datblygu o’r cychwyn.

Dewch i ymuno gyda ni ar gyfer y bennod arbennig hon yn hanes Soar a thref Merthyr. 

RHANNWCH