Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cyn Cwsg – Asgwrn Newydd/Lôn Gul

Cerddoriaeth

SENGL DDWBL CYN CWSG, ‘ASGWRN NEWYDD / LÔN GUL’, ALLAN 8FED MAWRTH AR UNTRO

Ar ôl bod yn eistedd ar bentwr o ganeuon ers tro, mae Cyn Cwsg (Tomos Lynch, Obed Powell-Davies a Gwion Ifor) yn dechrau’r flwyddyn newydd â sengl ddwbl newydd sbon ar ffurf ‘Asgwrn Newydd’ a ‘Lôn Gul’. Caiff y caneuon eu disgrifio gan y band yn rhai melodig sy’n dal hwyl penwythnos o recordio gyda’r cynhyrchydd, Sywel Nyw, yn Ne Llundain ddiwedd haf 2023.

“Oedda’ ni ddigwydd bod yna’r un pryd â rhyw heatwave mawr a dwi’n meddwl fod yr hwyl yn hynny o beth – o fynd am lot o breaks yn yr haul, o roi takes lawr yn gyflym ac o daflu gwahanol ddylanwadau rownd y ‘stafell – yn dod drosodd yn y caneuon”. Mae rhai o’r dylanwadau rheini yn dyddio yn ôl i’r 70au, â gonestrwydd geiriau ‘Asgwrn Newydd’ yn tynnu ar ganeuon serch Gilbert O’Sullivan, tra bod harmonïau cynnes ‘Lôn Gul’ yn ymgais ar fynd “all out Hergest” fel yr eglura’r aelodau.

Mae Cyn Cwsg hefyd wedi bod yn cyd-weithio â’r cyfarwyddwr ffilm, Aled Victor, ar fideo a ddisgrifir fel “teyrnged tafod yn y boch i ddegau o nosweithiau hwyr yn gwylio clipiau o rooftop concert y Beatles tra yn y coleg yn Aberystwyth,” wrth i’r band berfformio ar falconi fflat yng nghanol Caerdydd. Bydd y fideo, sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Fideos Lŵp x PYST, yn cael ei ddangos cyn y ffilm Lisa Frankenstein yng Nghanolfan Gelfyddydol Chapter yng Nghaerdydd bob nos rhwng yr 8fed a’r 14eg o Fawrth, cyn y premiere digidol ar wefan Klust yr wythnos ganlynol.

Bydd sengl ddwbl Cyn Cwsg yn cael ei ryddhau ar UNTRO ddydd Gwener 8fed Mawrth.

RHANNWCH