Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cymru yn Ewrop: Hannah M Morris ac Owain Griffiths

Artistiaid: Hannah M Morris ac Owain Griffiths, Leipzig (Yr Almaen)

Dyma’r drydedd ffilm Cymru yn Ewrop, prosiect sy’n cefnogi artistiaid o Gymru sy’n byw yn Ewrop ac yn dathlu’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig ar y llwyfan Ewropeaidd.

Mae Hannah ac Owain yn byw ac yn gweithio yn Leipzig, lle datblygodd eu diddordeb ym myd theatr miniatur. Gyda 3 artist arall, maen’t yn rhan o’r grŵp Lecki Lecki Kolleki, gyda Lambe Lambe yn brif ddisgyblaeth iddynt. Perfformir cywaith ‘Blodeuwedd’ Hannah ac Owain mewn gwyliau a digwyddiadau o amgylch yr Almaen.

Artist yw Hannah M Morris sydd fel arfer yn gweithio mewn print, darlunio a collage. Mae ei phwnc yn eclectig, ond yn aml mae’n cynnwys elfennau bywgraffyddol, tebyg i ddyddiadur, yn ogystal a lleoedd penodol a phobl.

www.hannahmmorris.co.uk

Mae Owain Griffiths yn artist sain, cynhyrchydd a cherddor sydd â diddordeb yn y cysylltiad rhwng sain a symudiad. Ar hyn o bryd mae’n archwilio’r berthynas hon ar ffurf cerfluniau sain cinetig. Mae Owain hefyd yn creu cerddoriaeth electronig dan yr enw Carw, a rhyddhaodd ei albwm diweddaraf Maske yn 2020. www.instagram.com/o___ngr_ff_ths/

RHANNWCH