Artist: Gethin Wyn Jones, Stockholm (Sweden)
Dyma ail ffilm prosiect Cymru yn Ewrop, sy’n cefnogi artistiaid o Gymru sy’n byw yn Ewrop ac yn dathlu’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig ar y llwyfan Ewropeaidd.
Mae cefndir ffilm Gethin yn bwysig, gyda chyfeiriad at ‘Empire’ gan Andy Warhol o 1964. Yn lle’r Empire State Building yn Efrog Newydd, y canolbwynt yma yw arwydd neon Hagsätra wedi ei ffilmio o ystafell wely’r artist ar heuldro’r haf. Ardal amlddiwylliannol yn ne Stockholm yw Hagsätra, ac am flynyddoedd doedd yr arwydd ddim yn gweithio. Mae newydd gael ei drwsio ac yn awr mae’n goleuo ac yn troelli unwaith eto dros y toeau.
Artist o Gymru yw Gethin Wyn Jones sydd bellach yn byw yn Stockholm. O ardal Bangor y daw yn wreiddiol, ac ar ôl astudio Celf Gain ym Mhrifysgol Bath Spa aeth yn ei flaen i Brifysgol Northumbria i wneud Gradd Meistr gan dreulio amser fel myfyriwr gwadd yn Kungl.Konsthgskolan, Stockholm yn 2015. Mae o wedi byw yn y ddinas ers hynny.