Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cymru fel Cenedl Heddwch

Cymuned

Mae Byw Mewn Heddwch (Llais y Lle, Cyngor Celfyddydau Cymru) wedi dod i ffrwyth trwy bartneriaeth yr Academi Heddwch a grŵp Heddwch Nain/Mam-gu. Mae’n gyfle i ferched Meirionnydd a phobl ifanc GISDA archwilio beth ydi heddwch i ni yng Nghymru heddiw o fewn ein cymunedau a thu hwnt.

Roedd y gyntaf o’n sesiynau ‘Meirionnydd Heddychlon?’ ar gyn-safle ffatri ffrwydron Cooke’s Explosives Ltd (Gwaith Powdwr) ble cynhyrchwyd 17 miliwn o daflegrau yn ystod y Rhyfeloedd Byd a rhoi gwaith i gymuned yr ardal. Mae’n lecyn sy’n peri i chi ofyn pa mor heddychlon ydi ardal Meirionnydd ddoe a heddiw ac aethom ati i greu mapiau o’r llefydd heddychlon ac anheddychlon yn ein milltir sgwar.

Yng ngweithdy ‘Buwch am Heddwch’ efo Mair Tomos Ifans yn Nhŷ Siamas, Dolgellau, daeth criw at ei gilydd i drafod yr hyn fasen nhw’n fodlon aberthu dros heddwch. Hen ymadrodd gan nain Mair oedd ‘buwch am heddwch’ sy’n deillio o lyfr Leviticus y Beibl ond mae wedi ysgogi trafodaethau difyr am beth fasen ni’n fodlon mynd hebddo, neu’n wir ddim yn fodlon ei aberthu dros heddwch.

 

RHANNWCH